Gadewch i'r Cyngor Llawn benderfynu ar ddyfodol ysgolion pentrefol

Cyn cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion heddiw i drafod newid y broses ar gyfer adolygu dyfodol ysgolion pentref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai cysyniad negyddol yw dewis ysgolion unigol ar gyfer adolygu, ac yn ffafrio yn hytrach adolygu pob ysgol yn gadarnhaol ardal wrth ardal er mwyn gweld sut y gellir eu datblygu yn gadarnhaol. Mae'r Gymdeithas hefyd yn mynnu y dylai unrhyw adolygiad gael ei gynnal gyda'r cymunedau lleol yn hytrach na tu ôl i ddrysau caeedig yn Adeiladau'r Cyngor.Dywedodd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Os bydd y Panel Adolygu Elitaidd yma yn dymuno gwneud penderfyniad enfawr i argymell y dylai cymuned gael ei hamddifadu o'i hysgol, dylent fod yn ddigon dewr i gynnal gwrandawiadau ar gyfer pawb yn y gymuned leol yn hytrach na gwysio cynrychiolwyr i'r swyddfeydd."