Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu heddiw i fwrw ymlaen â'r argymhelliad amhoblogaidd y dylai pob ysgol gynradd yn ardal Llandysul gau er mwyn creu un ysgol enfawr. Penderfynodd aelodau'r Cabinet gymeradwyo'r ddogfen a luniwyd gan y swyddogion addysg sy'n datgan mai ysgol 3-19 Llandysul fydd yr unig brosiect y byddant yn gwneud cais am gyllid amdano oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y 3 mlynedd nesaf, sy'n golygu bod cynlluniau eraill fel buddsoddiad mewn TChG ar draws y sir gyfan yn cael eu gohirio tan 2015-2017.Dywedodd Siriol Teifi, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion:"Mae'r Swyddogion addysg yn caniatáu eu hobsesiwn dros y cynllun amhoblogaidd yma'n Llandysul i gymylu eu barn. Fe sgoriodd ysgolion uwchradd Tregaron ac Aberteifi yn waeth na Dyffryn Teifi yn yr astudiaeth annibynnol ddiweddar ar gyflwr adeiladau. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr felly fod y swyddogion yn cynnig gwthio am gyllid ar gyfer cynllun amhoblogaidd ardal Llandysul yn groes i ewyllys pobl yr ardal cyn gofyn am gyllid ar gyfer ardal Tregaron ac Aberteifi lle y mae'r cymunedau yn cefnogi'r cynlluniau."Ychwanegodd Miss Teifi:"Rydym felly yn galw ar y cynghorwyr sydd yn eistedd ar y pwyllgor craffu addysg i alw'r penderfyniad hollol warthus yma i fewn er mwyn rhoi y cyfle i holl gynghorwyr y sir i gael cyfle i drafod y penderfyniad."