Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i gymeradwyo cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, fyddai’n gwneud caniatâd cynllunio’n ofynnol er mwyn troi cartref parhaol yn ail gartref neu lety gwyliau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi canllawiau ac adnoddau i awdurdodau cynllunio er mwyn eu galluogi i gymryd camau tebyg.
Mae sawl awdurdod lleol arall wedi oedi cyn cyflwyno mesur tebyg. Un o’r rhain yw Cyngor Conwy, a gyfeiriodd at heriau staffio a chost fel rheswm i beidio parhau gyda’r polisi fis Ebrill eleni. Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud bod angen gweld sut mae’r broses yn gweithredu yng Ngwynedd cyn dechrau arni yno.
Bu aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith tu allan i adeilad cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon cyn cyfarfod y cabinet heddiw (Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf) i'w hannog i fabwysiadu'r mesur.
Un ohonynt oedd Osian Jones, sy’n rhan o ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith ac yn byw yng Nghaernarfon, a ddywedodd:
“Rydym yn croesawu penderfyniad aelodau cabinet Cyngor Gwynedd prynhawn yma i gymeradwyo cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, ac am fod yn flaengar a defnyddio’r grymoedd sydd o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
“Ond, wrth gwrs, dim ond un awdurdod cynllunio allan o ddau ddeg pump ydy Gwynedd, ac mae argyfwng tai Cymru yn bodoli tu hwnt i'w ffiniau. Ym mhob cymuned yng Nghymru, boed yn Gymraeg neu’n ddi-Gymraeg, mae teuluoedd a phobl ifanc yn wynebu ansicrwydd a bygythiadau i hyfywedd eu cymunedau ac yn gorfod gadael eu cymuned am fod prisiau rhent a thai tu hwnt i’w cyrraedd.
“Rydym yn gobeithio bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru’n talu sylw i’r penderfyniad heddiw ac yn dilyn yr esiampl a roddwyd gan Wynedd. Ond er mwyn i hynny ddigwydd mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth ariannol er mwyn i awdurdodau gyflogi swyddogion i fynd at y gwaith; a chanllawiau clir ar weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4.”