Strategaeth wledig Sir Gâr - Galw am 'syniadau ffres'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw y bydd ymgynghori ar greu strategaeth newydd i gynnal cymunedau gwledig, ond wedi galw ar bobl y sir i gyfrannu "syniadau o'r newydd".

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Cyng. Cefin Campbell ar faes y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, dywedodd David Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
"Mae'r Gymdeithas yn croesawu fod y Cyngor Sir yn gofyn am syniadau ar gyfer creu strategaeth i gynnal cymunedau gwledig Cymraeg y sir, yn wrthbwys i ddatblygiadau Bae Abertawe. Ond credwn fod peryg y bydd pobl yn ymateb yn unig gyda'r pryderon traddodiadol am ddirywiad gwasanaethau, problemau symudiadau poblogaeth etc. Galwn ar bobl y sir i ymateb yn hytrach yn greadigol gyda syniadau ffres o'r newydd am sut y gallwn ni sicrhau dyfodol i'n cymunedau gwledig Cymraeg. Bydd y Gymdeithas yn ymateb yn gadarnhaol trwy gynnig strategaeth "cylchoedd consentrig" - sef adnabod beth ellir ei wneud mewn cylch pentrefol, wedyn beth sy'n gweithio orau mewn cylch clwstwr o bentrefi, wedyn cylch tre farchnad, wedyn cylch sirol, wedyn yn rhanbarthol. Bydd y farchnad agored yn tynnu pob bywyd i'r trefi mawr gan adael yr ardaloedd gwledig fel mannau cysgu neu ymddeol. Ond gallwn ni greu strategaeth a fydd yn gweld gwerth pob un o'r cylchoedd hyn a hybu cyswllt byw rhyngddynt. Ein gobaith yw y bydd Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd ar gyfer y Gymru wledig Gymraeg"

Y stori yn y wasg

Cynnig Ffordd Arall o Edrych ar Bethau - Golwg 360 28/11/17