Mae Undebau Llafur ac ymgyrchwyr iaith yn galw ar benaethiaid y BBC ac S4C i dynnu allan o drafodaethau gydag Adran Diwylliant y DG am ddyfodol y darlledwr Cymraeg.Ofna'r grwpiau pwyso fod trafodaethau tu ôl i'r llenni yn digwydd cyn sgrwitneiddio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus - a fyddai'n caniatáu cwtogi dros 40% o gyllideb y sianel, newidiadau yn y drefn lywodraethol a'i diddymu'n llwyr - yn San Steffan.Mewn datganiad dywed undeb llafur BECTU: "Mae trafodaethau rhwng y BBC a S4C yn amhriodol cyn penderfyniadau a thrafodaethau yn San Steffan. Mae 4 o'r Arglwyddi wedi cyflwyno cynnig i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus ac mae ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn parhau i ystyried y materion. Mae cynnal y trafodaethau cyn i'n cynrychiolwyr etholedig wneud penderfyniadau yn tanseilio'r broses ddemocrataidd."Ychwanegodd David Donovan o'r undeb llafur BECTU :"Mae pawb sydd yn credu mewn atebolrwydd democrataidd wedi ei arswydo fod y BBC a S4C yn ystyried ei hunain uwch ben y broses ddemocrataidd yn eu brys cywilyddus i ddod i gytundeb. Rydyn ni'n gofyn i Sir Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC gydnabod bydd rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir dderbyn cefnogaeth ein cynrychiolwyr etholedig yn ogystal â phobl Cymru. Rydyn ni'n gobeithio ei fod yn poeni digon am ein democratiaeth, yn enwedig yn dilyn llygru'r holl gynigion achos ei fargen munud-olaf gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, Jeremy Hunt, i dynnu nôl nes bod craffu go iawn o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus wedi digwydd gan yr ASau a Th?'r Arglwyddi. Byddai parhau yn tanbrisio gwerth ein democratiaeth a diddordeb yr ymddiriedolaeth ym marnau pobl Cymru."Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r ffordd mae'r BBC yn fodlon dilyn union gyfarwyddyd y Llywodraeth wrth-Gymraeg hon yn codi cwestiynau am ddiduedd y darlledwr. Mae Llywodraeth Prydain gyda'u partneriaid, y BBC yn Llundain, yn bygwth dyfodol unig sianel Gymraeg y byd. Wrth i'r unig sianel Gymraeg gael ei thraflyncu gan y BBC, bydd tynged yr iaith yn nwylo darlledwr yn Llundain sydd yn gorfod gwneud toriadau eithafol ei hunan.""Mae'r BBC wedi bod yn gamarweiniol tu hwnt wrth honni eu bod nhw'n achub S4C trwy gymryd y sianel dan eu harweiniad. Y gwir plaen amdani yw mai stitch-up llwyr, munud olaf rhwng Jeremy Hunt a rheolwyr y BBC yn Llundain yw'r cynlluniau hyn. Dyw dyfodol yr iaith Gymraeg ddim yn flaenoriaeth iddyn nhw."