Galw ar gyngor Sir Caerfyrddin i wneud newidiadau sylfaenol i ddiogelu'r Gymraeg

Wrth gyflwyno tystiolaeth i Weithgor Cyfrifiad Cyngor Sir Gaerfyrddin mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud wrth Gyngor Sir Caerfyrddin fod rhaid cael newidiadau sylfaenol i bolisïau os yw'r iaith a chymunedau Cymraeg i fyw a ffynnu yn y sir. Sefydlwyd Gweithgor y Cyfrifiad gan y Cyngor Sir er mwyn llunio strategaeth yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd ddirywiad difrifol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Mae'r cyfarfod yn dilyn y cyfarfod cyntaf erioed rhwng y Gymdeithas ac arweinydd y Cyngor Sir i drafod y mater yn gynharach yn yr haf.
 
Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin:
"Rydyn ni'n cymryd y Cyngor Sir ar eu gair eu bod nhw am weithredu dros y Gymraeg, ac wedi esbonio wrthyn nhw y bydd yn rhaid wrth newidiadau cwbl sylfaenol os am lwyddo. Mae llygaid Cymru gyfan ar Sir Gaerfyrddin, fan hyn y gwelon ni'r cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr a'r cymunedau Cymraeg. Mae Carwyl Jones wedi cydnabod hynny drwy sefydlu gweithgor y Llywodraeth i edrych beth sydd yn gallu cael ei wneud yn y Sir. Fe ddywedon ni wrth y gweithgor felly fod angen i'w argymhellion nhw arwain at newidiadau llwyr yn y ffordd mae'r Cyngor yn gweithredu - gan wneud y Gymraeg yn ganolog i'w holl waith; ac y gallan nhw arwain y ffordd i'r Llywodraeth.
 
"Dyma'r cyfle olaf i sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn cymunedau hyfyw Cymraeg, a'r hawl i fyw bywyd yn llawn yn Gymraeg. Dyma'r cyfle olaf i sicrhau dyfodol Cymraeg i'n plant."
 
Ymhlith y newidiadau sylfaenol mae'r Gymdeithas yn pwyso amdanynt yn y cyfarfod mae:
 
* Sicrhau na chaiff unrhyw blentyn yn y sir ei amddifadu o'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg. Cred y Gymdeithas na ddylai unrhyw ddisgybl fod tan anfantais o adael ysgol heb y sgiliau hyn.
* Galw ar y Cyngor Sir i osod esiampl a rhoi arweiniad trwy symud tuag at gyflawni ei waith ei hun yn bennaf trwy'r Gymraeg.
* Gweddnewid y system gynllunio fel bod cynllunio o'r gwaelod i fyny. Mae'r Gymdeithas yn galw am gynlluniau cymunedol i sefydlu faint o dai sydd angen yn lleol, beth yw patrymau gwaith a thrafnidiaeth a sut i wneud y defnydd gorau o asedau fel ysgolion.
 
Y stori yn y wasg: 
Group's evidence bid - Carmarthen Journal, 11/09/13