Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi galw ar y Cyngor Sir i ddilyn esiampl Cyngor Ceredigion a mynnu fod y Prif Swyddog Gweithredol newydd yn gallu cyflawni ei waith yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cyhoeddodd y Prif Weithredwr presennol, Mark James, ei fwriad i roi'r gorau i'w swydd ym Mehefin eleni ac mae'r Gymdeithas yn galw ar y Cyngor Sir wrth chwilio am olynydd i beidio â cheisio "mewnforio o du allan, ond i roi cyfle i ymgeisydd sydd wedi dangos ymrwymiad at Sir Gaerfyrddin neu ardal debyg ac yn rhugl yn y ddwy iaith".
Mewn neges at arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole, dywed Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn SIr Gâr bod cyfle gan Gyngor Sir Caerfyrddin i benodi Prif Swyddog Gweithredol sy'n deall anghenion y sir a dyheadau'r bobl, ac yn gallu arwain gweinyddiaeth yn Gymraeg:
"Yn y gorffennol, defnyddiodd eich rhagflaenwyr asiantaethau i geisio mewnforio swyddogion o du allan, ond gofynnwn i chi roi cyfle i ymgeisydd sydd wedi dangos ymrwymiad at Sir Gaerfyrddin neu ardal debyg ac yn rhugl yn y ddwy iaith..... Rydyn ni'n falch o fod wedi gallu defnyddio Cyngor Sir Gâr fel esiampl o arfer dda a gosod nod yn Strategaeth Gymraeg y cyngor mai'r Gymraeg fydd prif iaith y sir yn Strategaeth Iaith y cyngor."
Cyfeiria'r Gymdeithas at y modd yr hysbysebodd Cyngor Ceredigion (gweler yr atodiad) am Brif Weithredwr newydd gan fynnu bod yr un gallu i weinyddu'n Gymraeg ag yn Saesneg, a phenodwyd swyddog a oedd wedi gwasanaethu'n tu fewn i'r Cyngor. Ychwanegodd Sioned Elin: "Yn y cyfnod diweddar wrth hysbysebu swyddi swyddogion uwch, gan gynnwys cyfarwyddwyr, bu gofyn am Saesneg lefel 5 a Chymraeg lefel 2. Dyna anfon arwydd anffodus mai Saesneg yw iaith ddifrifol y Cyngor gyda defnydd symbolaidd yn unig o'r Gymraeg. Mae angen Lefel 5 o sgiliau cyfathrebu a gweinyddu'n Gymraeg, yn arwydd o'r lefel uchaf o ymrwymiad at y gymuned leol a'i diwylliant."
Mae'r Gymdeithas bellach wedi derbyn cydnabyddiaeth o dderbyn y llythyr gan Emlyn Dole ac wrth nodi diolch amdano dywed swyddogion lleol y Gymdeithas y bydd cyfle pellach i drafod y Gymraeg fel iaith gweindyddiaeth y cyngor mewn cyfarfod cyhoeddus yn y sir yn y misoedd nesaf.