Galw ar i'r Prif Weinidog newydd fod yn gyfrifol am y Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Mark Drakeford i gymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg ei hun, ar ôl cael ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru. 

Ar hyn o bryd, Gweinidog nad yw’n eistedd yn y cabinet sy’n gyfrifol am y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi awgrymu mai’r Prif Weinidog ddylai fod yn gyfrifol am y Gymraeg fel mater trawsadrannol y dylai pob ysgrifennydd cabinet gyfrannu ato. Maen nhw’n galw hefyd am uwchraddio’r uned yn y gwasanaeth sifil sy’n gyfrifol am yr iaith. 

Meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“Mae angen defnyddio holl rym y Llywodraeth er mwyn cyflawni’r targed miliwn. Dydy'r Gymraeg ddim yn cael y statws na’r ystyriaeth mae’n eu haeddu gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Rydyn ni o’r farn mai dim ond gydag arweiniad o’r brig y gwelwn ni’r newid sydd ei angen. Rhaid sicrhau bod holl adrannau’r Llywodraeth yn gweithredu er mwyn cyflawni’r nod o filiwn o siaradwyr, a bod pob ysgrifennydd cabinet yn cymryd eu cyfrifoldeb am les y Gymraeg yn eu gwahanol feysydd. Y ffordd o wneud hynny ydy bod y Prif Weinidog yn cymryd y prif gyfrifoldeb am y Gymraeg ei hunan. 

“Rydyn ni hefyd yn galw am adran lawn, yn hytrach nag uned fach, i fod yn gyfrifol am y Gymraeg yn y gwasanaeth sifil. Mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn hynod uchelgeisiol, ac rydyn ni’n gwbl gefnogol o'r amcanion sydd ynddi. Ond er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen cynyddu capasiti’r swyddogion fydd yn gweithio gyda’r Prif Weinidog er mwyn cyrraedd y nod. 

Ychwanegodd: 

Rydyn ni’n hyderus y gwelwn ni newid agwedd yn y Llywodraeth o dan arweiniad Mark Drakeford. Roedden ni’n falch bod ei faniffesto yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ac nad oedd sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau'r Ddeddf Iaith. Felly, mae’n debyg bod ei flaenoriaethau yn iawn.”