Mae'n gwbl glir bellach mae nid bygythiad wedi ei gyfyngu i Sir Gaerfyrddin yn unig yw'r bygythiad i ddyfodol yr ysgol bentref sy'n graidd i fywyd cymunedol llawer o bentrefi naturiol Gymraeg.
Yr wythnos yma mae'n hysbys fod bygythiadau real i ddyfodol ysgolion pentrefol yn Sir Fôn, Gwynedd yn ogystal a Sir Gâr. Gan fod yr argyfwng yn amlygu ei hun dros Gymru gyfan bellach mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso o'r newydd ar Llywodraeth i Cynulliad i ymyrryd i ddiogelu'r ysgolion a'r pentrefi sy'n ddibynnol arnynt.Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Rydym yn galw ar y Gweinidog Cefn Gwlad, Elin Jones, a'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt i rhoi ystyriaeth brys i gais Cymdeithas yr Iaith am gyfarfod i drafod dyfodol ysgolion pentrefol a wnaethpwyd wythnosau yn ôl erbyn hyn. Mae'n amlwg fod hwn yn broblem genedlaethol bellach ac felly mae angen arweiniad cenedlaethol ar y mater gan Lywodraeth y Cynulliad."