Galw ar y gwrthbleidiau i drechu'r Llywodraeth er mwyn ysgolion pentrefol Cymraeg.

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mewn protest (3.30pm heddiw Llun 30/5) wrth uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y gwrthbleidiau ac A.C’au Llafur sy’n gefnogol i ysgolion pentrefol i ymuno i drechu’r llywodraeth yn y Cynulliad, fel y llwyddwyd i’w wneud o ran ffioedd myfyrwyr yr wythnos ddiwethaf.

Yn y brotest, bydd Steffan Cravos (cadeirydd newydd y Gymdeithas) yn dweud fod posibiliad cyffrous ein bod yn gweld gwawr democratiaeth yng Nghymru, a gorfodi llywodraeth i wrando ar farn y bobl. Meddai:"Rydyn ni’n llongyfarch aelodau’r Cynulliad am leisio’r gwrthwynebiad cyhoeddus i wasgu’n ariannol ar fyfyrwyr. Byddwn yn gofyn yn awr i aelodau’r Cynulliad leisio hefyd y gwrthwynebiad chwyrn sydd yng Nghymru i’r chwalfa o’n hysgolion pentrefol Cymraeg er mwyn hwylustod gweinyddwyr.""Mae Cynghorau Sir fel Caerfyrddin a Phenfro’n dwyn anfri ar ddemocratiaeth trwy anwybyddu llais y bobl ym mhob ffug ymarferiad o ymgynhori, ac y mae Jane Davidson yn dwyn anfri ar ddemocratiaeth trwy wrthod pob apêl yn erbyn cau ysgolion pentref a thrwy wrthod yn gyson – eto heddiw – i gyfarfod ag ymgyrchwyr tros yr ysgolion, er ei bod yn cyfarfod yn gyson gyda swyddogion yr Awdurdodau Lleol sydd am eu cau.""Mae angen i A.C.’au alw’n llywodraethwyr yn ôl at ddemocratiaeth trwy basio cynnig yn myunnu fod Jane Davidson yn cyhoeddi canllawiau cadarnhaol newydd i ddatblygu’n hysgolion pentrefol fel sefydliadau addysgol llwyddiannus ac fel asedau pwysig gan ein cymunedau Cymraeg."Yn yr un brotest, bydd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin Sioned Elin (sydd â’i phlant yn Ysgol Bancffosfelen sydd tan fygythiad) yn condemnio 'prosesau ymgynghori anonest' Jane Davidson a chynghorau lleol ar bwnc ysgolion pentre. Dywed:"Dyma ni unwaith yn rhagor yn barod ar gyfer ymgynghori a thrafod onest gyda Jane Davidson, ac unwaith eto mae hi wedi’n gadael ni i lawr. Petai Llywodraeth y Cynulliad yn credu’n onest mewn ymgynghori, byddent yn galw’n awr am gomisiwn a thrafodaeth cenedlaethol am ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg o ystyried y gyflafan a allai ddigwydd. Ond, na, yr unig ymgynghori y mae Jane Davidson yn fodlon arno yw apêl at y Cynulliad pan fydd yn rhy hwyr – a bydd hi bob amser yn gwrthod yr apêl.""Petai Cyngor Sir Caerfyrddin yn credu’n onest mewn ymgynghori, byddai trafodaeth ledled y sir yn awr am yr holl egwyddor o gau ein holl ysgolion pentrefol a chreu Ysgolion Ardal canolog. Ai dyma’r ffordd yn ni am fynd ? Ond, na, yr unig ymgynghori maen nhw’n fodlon arno yw cynnal un cyfarfod yr un gyda rhieni a llywodraethwyr ysgol unigol ar ôl bygwth ei chau. Mae’r ymgynghori felly’n gwbl anonest yng nghyd-destun negyddol pam na ddylid cau ysgol. Dyn ni byth yn gweld y swyddogion llywodraeth leol hyn yn mynd o gyfarfod i gyfarfod i ymgynghori’n agored ac onest am sut i ddatblygu’n hysgolion pentre. Dyn ni byth yn eu gweld nhw heblaw am eu bod yn ein bygwth.""Yn sicr, yr wyf o blaid yr alwad ar Aelodau’r Cynulliad i alw’r Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol i drefn a pharchu dymuniadau rhieni a thrigolion ein cymunedau pentrefol."Stori 1 oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori 2 oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC South West WalesStori 1 oddi ar wefan y Western MailStori 2 oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily Post