Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhyddhau datganiad yn cefnogi safiad Geraint Jones sydd wedi ei garcharu am ddeg diwrnod am wrthod talu dirwy o £330 osodwyd arno gan Lys Ynadon Caernarfon flwyddyn yn ôl. Roedd ei safiad gwreiddiol oherwydd seisnigrwydd Radio Cymru, ond erbyn hyn mae y perygl i ddyfodol S4C yn rhan ganolog o'i safiad.Dywedodd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yn y Gogledd:"Ers ymddangosiad Geraint Jones yn y llys flwyddyn yn ôl mae'r helynt dros ddyfodol S4C wedi codi ei ben. Rydyn ni'n hynod o falch yr oedd yn gwrthwynebu'r newidiadau i S4C yn ei araith i'r Llys, newidiadau a thoriadau sydd yn peryglu dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg. Fel rhan o'n hymgyrch i achub S4C rydym yn gofyn i bobl wrthod talu eu trwyddedau teledu er mwyn gorfodi i'r Llywodraeth ail-ystyried eu cynlluniau annoeth i'r sianel."