Gig 'Hanner Cant' - Tocynnau cyntaf yn mynd ar werth

Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener am hanner dydd.

Nos lun, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru, dywedodd Huw Lewis, un o drefnwyr yr wyl:

"Bydd modd rhag-archebu tocynnau i'r wyl o Fawrth 1af ymlaen am £25 yr un - pris hynod o resymol - o'n gwefan arbennig hannercant.com"

"Ond fel cynnig arbennig ac fel ymateb i'r diddordeb eithriadol yn Hanner Cant, byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau - 250 ohonynt - ddydd Gwener yma (20fed Ionawr) am hanner dydd. Bydd modd prynu'r rhain am bris arbennig o £20."

"Felly os yw dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg am fachu ar y cyfle cyntaf i sicrhau tocyn i'r digwyddiad, sy eisoes wedi cael ei ddisgrifio fel gig mwya'r ddegawd, dylent daro draw i hannercant.com dydd Gwener yma."

Yn ogystal â'r cyhoeddiad pwysig ynglyn â thocynnau'r wyl, datgelwyd mai'r diweddaraf i ymuno â'r rhestr o artistiaid a fydd yn perfformio ym mis Gorffennaf yw'r 'Brawd Houdini' ei hun, Meic Stevens, un o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru ers y 1960au.

Mae trefnwyr Hanner Cant wedi bod yn cyhoeddi enw artist newydd bob wythnos ers wythnos gyntaf Awst 2011 a hwn oedd y 25ain cyhoeddiad.Manylion cefndirol

  • Trefnir Hanner Cant gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i nodi pen-blwydd y mudiad yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.
  • Cynhelir yr wyl ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, Ceredigion, ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf 2012.
  • Bydd 50 o artistiaid Cymraeg yn perfformio.
  • Cyhoeddwyd enw'r artist cyntaf, sef Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals, ar y 3ydd o Awst 2011 - 50 o wythnosau cyn y digwyddiad.
  • Mae'r Gymdeithas wedi bod yn cyhoeddi enw un artist newydd bob wythnos ers hynny.
  • Ymhlith yr artistiaid sydd eisoes wedi'u cyhoeddi mae Gruff Rhys, Yr Ods, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms a Gwyneth Glyn. Yr artist diweddaraf i gael ei ychwanegu at y rhestr oedd Meic Stevens.
  • Bydd nifer cyfyngedig o docynnau i Hanner Cant - 250 ohonynt - yn mynd ar werth dydd Gwener yma am hanner dydd o'r wefan hannercant.com am bris gostyngol o £20.
  • Bydd y tocynnau rhag-archebu arferol yn mynd ar werth ar Fawrth y 1af ac yn costio £25.