Gig Steddfod i helpu codi arian i glwb pêl-droed Wrecsam

gig-sadwrn-wrecsam-cym.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ffurfio partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam i hyrwyddo gig i godi arian tuag at sicrhau dyfodol y clwb.Cynhelir y gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod (Awst 6) yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam, ac mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi y bydd hanner yr holl elw yn mynd at ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam.Bydd llawer o artistiaid lleol yn y gig - yn cynnwys Mother of Six, Band Cambria a'r Pencampwr Celf Ymladd Pol Wong. Ar ben hynny bydd Bob Delyn a Geraint Lovgreen, sy'n dal tocyn tymor gyda CPD Wrecsam. Mae'r noson yn cael ei drefnu ar y cyd gyda'r grwp pwyso lleol "Deffro'r Ddraig'. Bydd noson glwb enwog y 'Central' yn dilyn.Esboniodd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd:"Fel y dywed cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Richard Jones, 'curiad calon y Clwb yw ei gefnogwyr' ac mae hefyd yn wir mai'r clwb yw curiad calon y gymuned i lawer. Yn yr Eisteddfod eleni yr ydyn wedi cyhoeddi siarter 'Tynged yr Iaith' sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau parhad pob cymuned yng Nghymru, ac mae'n bleser gennym ni gydweithio gydag Ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam, a chwarae rhan fach i helpu sicrhau dyfodol y clwb."Bu Geraint Lovgreen yn annog pobl i ddod i'r gig ac i gefnogi'r ymddiriedolaeth. Dywedodd:"Dyma gyfle i eisteddfodwyr i helpu achub y clwb a chyfrannu at y gymuned leol mae'r g?yl yn ymweld a hi."Bydd y drysau yn agor am 7pm, gyda tocynnau ar werth o cymdeithas.org/steddfod uned Cymdeithas yr iaith ar y Maes, Caffi Yales drws nesaf i'r Orsaf Ganolog, neu wrth y drws ar y noson - £8.