Gigs Eisteddfod Wrecsam Cymdeithas

2gigs-steddfod-wrecsam-2011.jpgLansiodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, gigs Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw (Dydd Gwener Mai 13) gan eu disgrifio fel y 'lein-yp mwyaf cyffrous ers blynyddoedd'.Mae'r gigs - a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherfformiad gan un o sêr ffilm Gruff Rhys, Rene Griffiths o Batagonia. Fe fydd criw rhaglen boblogaidd Ddoe am Ddeg yn arwain sesiwn gomedi ar nos Lun, gyda band lleol Dr Hywel Ffiaidd yn perfformio hefyd.Fe fydd gan gigs y Gymdeithas flas gwleidyddol: ar nos Fawrth bydd Bryn Fôn a'r Band yn perfformio ar noson i godi ymwybyddiaeth o'r bygythiad i gymunedau Cymraeg. Fe fydd Mici Plwm yn cyflwyno 50 mlynedd o ganu roc dros y Gymraeg mewn cân a ffilm gyda Maffia Mr Huws, Heather Jones a Gai Toms ar y nos Fercher. Fe fydd nos Iau yn noson 'gwrthwynebu'r toriadau' gyda Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog, Crash Disco!, Dau Cefn a Llyr PSI yn chwarae.Fe fydd Meic Stevens a'i fand, sydd yn teithio yn ôl o Ganada, yn brif atyniad y gig heddwch i gofio Hiroshima ar y Nos Wener gyda chefnogaeth Tecwyn Ifan, Gwilym Morys a Lleuwen Steffan. Yn cloi'r wythnos ar y nos Sadwrn bydd Bob Delyn a Geraint Lovgreen, bydd yn noson unigryw - am y tro cyntaf mewn Eisteddfod fe fydd celf ymladd Kung-Fu a Taw-Kwondo yn ogystal â'r band lleol Mother of 6.Mae tocynnau ar werth ar-lein ar cymdeithas.org/steddfod , yr Orsaf Ganolog a llefydd eraill, bydd gostyngiad arbennig i rai sy'n prynu tocynnau'r wythnos o flaen llaw.Yn siarad yn y lansiad, fe ddywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gogledd:"Dyma'r lein-yp mwyaf cyffrous y Gymdeithas am nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi dewis y lleoliad gorau yn y dref ac yn gobeithio y gallwn ni ychwanegu at gyffro yr Eisteddfod yn ei gyfanrwydd. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Bryn Fon am ei barodrwydd i hedleinio'r gig "Tynged yr Iaith - Dyfodol ein Cymunedau" ar nos Fawrth y Steddfod. Dyma fydd unig gig Bryn efo'r band llawn yn y Steddfod eleni, ac felly rydyn ni'n annog pobl i fynd arein i brynu tocynnau'n gynnar.""Mi fydd holl weithgareddau'r Gymdeithas yn ystod wythnos yn canolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac yn datgan ei bod hi'n bosib i'r Gymraeg fod yn iaith gymunedol o Ben-Llyn i Wrecsam, o Lanrwst i Fynwy. Pwyllgor o bobol leol sydd wedi trefnu'r gigs: mae eu brwydfrydedd nhw yn dangos i ni bod y frwydr o ddiogleu'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ennilladwy, pan ddaw cymunedau at ei gilydd.""Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi dewis yr Orsaf Ganolog fel lleoliad ein gigs ni eleni hefyd - dyma'r lleoliad gorau ar gyfer gigs yn y gogledd ddwyrain, mae hi'n ganolfan arbennig iawn sydd wedi magu enw da iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ganolfan yn rhoi llwyfan i rai o fandiau mwyaf gwledydd Prydain a thu-hwnt. Mae'r ganolfan hefyd am y tro cyntaf erioed yn ein galluogi ni i fedru cynnig y profiad cerddorol gorau posib, mewn lleoliad pwrpasol."Yn son am bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Eisteddfod Genedlaethol, ychwanegodd Osian Jones:"Rydym yn awyddus i weithio mewn ysbryd o bartneriaeth i sicrhau llwyddiant yr wyl eleni. Gigs gwleidyddol fydd y rhai fydd y Gymdeithas yn ei gynnig eleni felly. Yn estyniad naturiol o'r holl arlwy fydd yn cael ei gynnig yn ardal Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod." Manylion llawn y gigs yma - cymdeithas.org/steddfod