Rydyn ni wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod pob plentyn fydd yn cael addysg yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg. Mae angen gosod y sylfaen nawr i ddechrau gweddnewid y gyfundrefn addysg, fel bod pob ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
Mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg, felly mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau y bydd holl bobl ifanc y dyfodol yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r mudiad yn dweud mai creu un gyfundrefn addysg i Gymru gyfan sydd ei angen, lle mae pawb, o bob cefndir, yn dysgu drwy’r Gymraeg.
Mewn llythyr at Mark Drakeford, mae Cadeirydd cenedlaethol newydd Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris, yn sôn am yr angerdd sydd i’w deimlo dros yr iaith yn dilyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd, yn ogystal â’r teimlad sy’n gyffredin ymhlith llawer o bobl Cymru bod y gyfundrefn addysg bresennol wedi eu methu drwy beidio sicrhau eu bod yn gadael yr ysgol yn abl ac yn hyderus yn eu Cymraeg.
Yn y llythyr at y Prif Weinidog, meddai Robat Idris:
“Er bod ymgyrch tîm Cymru yng Nghwpan y Byd wedi dod i ben, bydd y cyfnod hwn wedi cael effaith hirdymor ar y genedl mewn sawl ffordd. Ond beth fydd gwaddol Cwpan y Byd o ran y Gymraeg? Mae gan y Llywodraeth o dan eich arweiniad gyfle a chyfrifoldeb i sicrhau drwy’r Ddeddf Addysg Gymraeg mai gwaddol Cwpan y Byd i genedlaethau’r dyfodol fydd rhoi’r Gymraeg ar dafod pob person ifanc drwy osod pob ysgol yn y wlad ar y daith tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro’r anghyfiawnder cymdeithasol presennol drwy osod nod hirdymor a fydd yn cael effaith bellgyrhaeddol o ran hyder cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio’r Gymraeg gan sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r iaith ffynnu.”
Rydyn ni wedi llunio drafft o Ddeddf Addysg Gymraeg, a lansiwyd dros yr haf. Mae’r Ddeddf yn gosod nod clir y bydd y gyfundrefn addysg gyfan yn un cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, gyda’r bwriad bod pob ysgol yn symud yn raddol ar hyd llwybr i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg dros y chwarter canrif nesaf. Mae’r Ddeddf i'w gweld yma a'r llythyr at y Prif Weinidog i'w weld yn llawn yma.