Safonau’r Gymraeg - “llawer o waith” gan y Comisiynydd newydd i’w wneud

Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon y gallai Comisiynydd newydd y Gymraeg “drio troi’r cloc yn ôl” ar bwrpas y swydd.

Fe wnaeth Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gynnal gwrandawiad gyda'r ymgeisydd sydd wedi’i ffafrio ar gyfer y swydd heddiw, ac awgrymodd hi yr hoffai weld y Comisiynydd yn gwneud llai o waith ar osod Safonau ar gyrff a gwneud mwy o waith hyrwyddo “meddal”.

Yn ôl Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:
“Yn 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau i wanhau’r Comisiynydd a’r Safonau gan gyflwyno mwy o hyrwyddo meddal yn lle hynny, er nad oedd neb wedi galw am hynny. Yn dilyn gwrthwynebiad eang, mi gafodd y cynlluniau i newid y ddeddfwriaeth eu gollwng oherwydd diffyg cefnogaeth. Bum mlynedd yn ddiweddarach, y peth diwethaf sydd ei angen ydy trio troi’r cloc yn ôl i’r hen ddadl yma a gwastraffu amser ac egni pawb efo rhagor o din-droi.

“Gwaith Comisiynydd y Gymraeg ydy gosod Safonau ar gyrff a sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwasanaethau Cymraeg yn eu bywydau bob dydd a hynny heb iddynt fod dan anfantais gorfod treulio eu hamser eu hunain yn ymdrechu i gael cyrff i gydymffurfio â’r gyfraith. Corff bach ydy’r Comisiynydd ond mi all ei ddylanwad fod yn fawr trwy ganolbwyntio ei adnoddau ar hynny a gwneud ei waith yn effeithiol."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod llawer o waith gan y Comisiynydd newydd i’w wneud i sicrhau bod Safonau’n cael eu gosod ar ragor o gyrff cyn gynted â phosib, ac maen nhw wedi galw ar y Comisiynydd newydd i fod yn llawer mwy cadarn pan fydd cyrff yn methu cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol.

Ychwanegodd Aled Powell:

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn boenus o araf yn cyflwyno Safonau ar gyfer cyrff newydd fel cwmnïau dŵr, trafnidiaeth gyhoeddus a chymdeithasau tai – cyrff sy’n cyflenwi gwasanaethau angenrheidiol ym mywydau bob dydd pobl. Mae yna ddrafftiau o Safonau yn eistedd ar ddesg Gweinidog y Gymraeg ers misoedd lawer. Bydd angen i’r Comisiynydd newydd ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod adnoddau'r Llywodraeth yn cael eu blaenoriaethu i gyflymu’r broses – mae’n hen bryd i’r gwasanaeth sifil roi’r adnoddau i mewn er mwyn rhoi diwedd ar yr holl oedi di-angen sydd wedi bod yn pasio Safonau newydd.”
"Mae cyrff yn torri’r Safonau’n gyson, a llawer o gyrff a chwmnïau pwysig heb Safonau eto. Mae gwasanaeth trenau Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, yn parhau o hyd i dorri nifer o’r Safonau a osodwyd arno ers cael ei greu. Mae o fewn gallu’r Comisiynydd i ddirwyo cyrff am dorri’r Safonau, ond dydy’r Comisiynydd erioed wedi gwneud hynny, gan olygu bod cyrff fel Trafnidiaeth Cymru yn parhau i dorri’r Safonau heb boeni dim yn ôl pob golwg.

"Mae defnyddwyr Cymraeg yn colli ffydd yn y drefn ac yn cwestiynu a oes gennym ni hawliau mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol felly bod y Comisiynydd newydd yn gwneud anghenion a hawliau pobl yn ganolog i'w gwaith, ac yn fwy cadarn wrth ymdrin â chyrff sy’n torri’r Safonau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn gwella.”