Dim ond 11% o'r Gweision Sifil ym mhencadlys Llywodraeth Cymru sydd yn siaradwyr Cymraeg, mae ystadegau a ddarganfuwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei datgelu.
Heddiw, dim ond 317 o siaradwyr Cymraeg sydd yn gweithio ym mhrif swyddfa Llywodraeth Cymru, ym Mharc Cathays, Caerdydd mas o gyfanswm o 2,688 - un deg un y cant.
Mae hynny tua hanner y canran sy'n siarad yr iaith ymysg poblogaeth Cymru gyfan.Mae ystadegau hefyd yn dangos fod y canran o weithwyr Llywodraeth Cymru sydd yn dysgu Cymraeg wedi haneru dros y chwe mlynedd diwethaf. Yn 2003 roedd 7.5% o weision sifil yn Llywodraeth Cymru yn dysgu Cymraeg, erbyn heddiw, mae'r ffigwr wedi cwympo lawr i 3% yn unig.
Yn ymateb i'r ffigyrau a ddatgelwyd yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith, fe ddywedodd y Cadeirydd, Menna Machreth:
"Er bod y llywodraeth yn gwneud ambell i beth da i hybu'r iaith, mae'r ffigyrau ynglyn â phencadlys Llywodraeth Cymru yn siomedig. Ar hyn o bryd, mae'r Gymraeg yn cael ei thrin fel rhywbeth ychwanegol, dymunol yn hytrach na chael ei hystyried fel cyfrwng hanfodol yng ngweithrediad y sefydliad."
"Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau creu Cymru Ddwyieithog - mae 'na ddyletswydd arbennig arnyn nhw felly i ddangos arweiniad da. Yn ogystal, mae'n hollbwysig bod swyddogion y Llywodraeth yn deall materion ieithyddol ac yn gallu gwasanaethu'r cyhoedd yn y ddwy iaith."