Mae grŵp o ymarferwyr iechyd wedi galw am hawliau clir i gleifion gael derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gan ddarparwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu a fferyllwyr, mewn llythyr agored at Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Llun 27ain Tachwedd).
Daw’r llythyr, sydd wedi cael ei arwyddo gan dros 30 o ymarferwyr iechyd, at Weinidog y Gymraeg Eluned Morgan wrth i weision sifil baratoi i gyhoeddi dyletswyddau iaith ym maes iechyd cyn pleidlais yn y Cynulliad yn yr wythnosau nesaf. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r rheoliadau, Safonau'r Gymraeg, cyn y Nadolig.
Eithriodd y rheoliadau drafft, a gynhaliwyd ymgynghoriad arnyn nhw'r llynedd, gofal sylfaenol o'u darpariaethau. Felly, fyddai yna ddim hawliau cyfreithiol gan unigolion i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud â meddygon teulu, deintyddion, optegwyr na fferyllwyr dan gynlluniau gwreiddiol y Llywodraeth. Daw hyn er i Gmisiynydd y Gymraeg gynghori’n gryf, ar ôl ei gwaith ymchwil manwl, bod gwasanaethau sylfaenol yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau. Ond datganodd y rheoliadau arfaethedig y llynedd: "Pan fo’r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol ... yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys."
Yn y llythyr, dywed nifer o feddygon teulu, fferyllwyr, optegwyr a gweithwyr iechyd eraill:
“Pryderwn yn fawr nad yw'ch rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i'r Gymraeg wrth i'r cyhoedd ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â'r gwasanaethau iechyd yw'r gwasanaethau hyn, felly mae'n allweddol bod cleifion yn cael siarad â'r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.
“Credwn ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaethau rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o'r Safonau arfaethedig. Wedi'r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i'w hiechyd ac o ran sicrhau'r driniaeth orau iddyn nhw … credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r byrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill.
“Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwladol yn ogystal yn cefnogi'r galwadau hyn.
“Erfyniwn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn.”