Mae grŵp o brotestwyr iaith wedi bod yn cysgu ar uned Llywodraeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd heddiw (1pm, Dydd Llun Mai 26) er mwyn protestio yn erbyn ei diffyg ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad a ddangosodd gwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.
Cynhaliwyd ‘parti pyjamas’ gan Gymdeithas yr Iaith ar y maes gan ddadlau bod y Prif Weinidog wedi bod yn ‘cysgu wrth ei ddesg’, gan iddo beidio ag ymateb i sefyllfa’r iaith. Anerchwyd a diddanwyd y dorf gan yr actor Morgan Hopkins ynghyd â’r awduron Angharad Tomos a Gwion Lynch.
Yn ôl y protestwyr, roedd y ‘parti pyjamas’ ar y maes yn ymgais i ‘ddeffro’ Carwyn Jones o’i ‘drwmgwsg’ - gwrth-dystiad sy’n rhan o gyfres sy'n anelu at roi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar frys dros y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.
Meddai Morgan Hopkins, a arweiniodd y plant mewn cân yn y brotest: “Dyw Carwyn a’i griw heb ymateb i’r pwysau arno fe gan oedolion. Mae’n debyg nad yw‘n fodlon gwrando arnyn nhw, ond ry’n ni yn gobeithio y bydd yn gwrando ar ein plant a’n pobl ifanc. Mae pobl Cymru eisiau byw yn Gymraeg, ac mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog weithredu er lles y genhedlaeth nesaf fel bod pob un ohonyn nhw’n cael byw yn Gymraeg.“
Darllenodd yr awdures Angharad Tomos stori newydd sbon 'Deffra Carwyn!' i’r plant. Am y tro cyntaf, rhoddodd hi ongl wleidyddol i un o storïau Rwdlan. Roedd y stori gwbl newydd yn un lle mae Carwyn Cysglyd mor anobeithiol fel bod y Dewin Dwl yn penderfynu gwneud y swydd yn ei le.
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n hen bryd i’r Prif Weinidog - Carwyn ‘Cysglyd’ Jones - ddeffro i’r argyfwng, a newid ei bolisiau, yn lle cysgu ar y job. Rydyn ni’n galw am chwech o newidiadau polisi allweddol fel sicrhau addysg Gymraeg i bawb a threfn gynllunio sy’n llesol i’n cymunedau. Fel sy’n gwbl amlwg i bawb, petai ganddon ni system addysg sy’n sicrhau bod pob plentyn yn y wlad yn gallu cyfathrebu’n Gymraeg erbyn gadael yr ysgol, mi fyddai’r iaith mewn sefyllfa lawer gwell. Yn yr un modd, mae angen diogelu ac ehangu defnydd yr iaith ar lefel gymunedol drwy system gynllunio sy’n rhoi ystyriaeth ganolog i’r Gymraeg. Gobeithio y daw’n glir i Carwyn Jones fod angen camau pendant i gryfhau’r iaith, yn hytrach na’r ymateb cysglyd a gafwyd hyd yn hyn.”
Mae’r ymgyrchwyr wedi bod yn llythyru, yn lobïo ac yn cynnal cyfarfodydd ers dros flwyddyn ond bellach wedi dechrau protestio yn dilyn methiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisïau newydd yn wyneb yr argyfwng. Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle hynny, cyhoeddodd y Prif Weinidog ym mis Tachwedd y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.