Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft. Dadleuodd Aelodau Cynulliad o bob plaid nad yw'r Mesur yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol, creu hawliau i'w defnyddio, na Chomisiynydd Iaith digon annibynnol ychwaith: ymrwymiadau allweddol yng nghytundeb Cymru'n Un.Yn y brotest, bydd aelod Cymdeithas yr Iaith yn cerdded o gwmpas y maes fel y Comisiynydd Iaith newydd â hualau a pheli dur o gwmpas ei draed. Bydd y geiriau 'dim statws' a 'dim hawliau' ar y peli, yn dangos mai swydd anodd iawn fydd rôl y Comisiynydd heb egwyddor yn rhoi cyfeiriad a nod i'w waith.Bydd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud:"Ni fydd unrhyw werth i fesur iaith sydd yn cael ei basio er mwyn rhoi tic mewn bocs. Rydyn ni dal yn disgwyl i'r Llywodraeth i wneud rhywbeth gwirioneddol dros y Gymraeg a dyma'r neges rydym ni wedi ei glywed wrth bobl yr wythnos hon yn yr Eisteddfod. Mae'n amser i'n gwleiddyddion gymryd y cyfle i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol a rhoi hawliau yn y Mesur. Byddai hynny'n sail gref i ddyfodol y Gymraeg o Flaenau Gwent i Benllyn."
"Rydym wedi dadlau ers cyhoeddiad y Mesur drafft bod y cynlluniau yn torri addewidion Llywodraeth Cymru'n Un. Ac mae grwp meinciau cefn o Aelodau Cynulliad yn cytuno. Maent yn glir nad yw'r mesur, ar ei ffurf bresennol, yn sefydlu hawliau i'r Gymraeg, statws swyddogol iddi, na Chomisiynydd Iaith annibynnol ychwaith. A dyna oedd addewidion allweddol y Llywodraeth yn nogfen Cymru'n Un. Mae dyletswydd ar aelodau meinciau cefn y Cynulliad i wrthryfela yn erbyn y cynlluniau presennol."Meddai Barry Taylor, Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Blaenau Gwent a Chaerffili:"Rhaid cofio fod y Llywodraeth yno i wella ansawdd bywyd dinasyddion a chymunedau Cymru, gan rhoi cyfiawnder i'r sawl sy'n cael eu gwarafun o'u hawliau heddiw. Nid yw'n deg fod unigolion ym Mlaenau Gwent yn cael llai o hawl i weld a chlywed y Gymraeg o'u cwmpas oherwydd fod ganddyn nhw'r cod post anghywir."Yn ystod y brotest, bydd y 'Comisiynydd Iaith' yn ymweld â phob un o'r pleidiau ar y maes gan ofyn iddyn nhw sicrhau nad tic yn y blwch fydd y mesur hwn.Galw am 'wrthryfel' gan wleidyddion - golwg360.com - 04/08/2010 Campaigners call on AMs to revolt over language law - Western Mail - 04/08/2010Ymgyrchu yn erbyn y Ddeddf Iaith yn yr Eisteddfod - golwg360.com - 04/08/2010Language protestors call on Welsh Assembly to beef up measures - Daily Post - 04/08/2010