Gwrthwynebu toriadau i ganolfannau iaith yng Ngwynedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at gynghorwyr Gwynedd yn rhybuddio bod toriadau arfaethedig i ganolfannau iaith yn y sir yn fygythiad i hyfywedd y Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol. 

Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019.  

Mewn llythyr at gynghorwyr, dywed Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith: 

Canolfannau Iaith Gwynedd yw'r un llwyddiant yng Nghymru sydd wedi bod o ran cymhathu plant mewnfudwyr - gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r mewnfudwyr. Mae’r canolfannau hyn yn gwbl ganolog i strategaeth iaith genedlaethol y Llywodraeth ynghyd â strategaeth iaith y Cyngor. Mae’n fodel sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel arfer arbennig ac yn wasanaeth sy’n greiddiol i sicrhau llwyddiant Polisi Iaith y Sir.  

Mae’r canolfannau hyn yn gwneud cyfraniad hollbwysig i greu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'r Gymdeithas wedi bod mewn cyswllt gydag awdurdodau lleol yn Sir Gâr a Cheredigion ac maent am geisio cyrraedd safon Gwynedd o ran mynediad i blant mewnfudwyr at y Canolfannau am ddigon o amser fel y gellir eu cymhathu yn ysgolion eu cymunedau. Ond nawr dyma Wynedd yn tanseilio ei chanolfannau ei hun.  

Mae lleihau darpariaeth yn y canolfannau hollbwysig hyn yn annilysu'n ymarferol polisi iaith ysgolion Gwynedd a’r Siarter Ysgolion. Os na ellir Cymreigio'r mewnfudwyr cyn eu derbyn at yr ysgolion cymunedol, ac yn gosod baich ychwanegol annheg ac anghynaliadwy ar athrawon. Byddai'r toriadau arfaethedig yn peryglu iaith ysgolion a chymunedau Gwynedd am arbedion honedig o £96,000 - sef £1800 yr wythnos, neu 1.4 ceiniog y pen i bobl Gwynedd. Ydych chi wir am ganiatáu effaith andwyol ar effeithiolrwydd gwasanaeth y Sir am arbedion fel hyn? Mae llwyddiant polisi iaith ysgolion y sir, a chymhathu mewnfudwyr i'n cymunedau Cymraeg yn dibynnu ar hyn.