Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeidiog i symboleiddio fod swyddogion Ceredigion o hyd yn gallu gweld un ateb yn unig, sef cau ein hysgolion a chanoli addysg. Mae bygythiad i o leiaf 15 o ysgolion pentrefol yng Ngheredigion, ac mae hyn yn rhan o broblem sy'n wir fygythiad i'n cymunedau gwledig Cymraeg trwy'r wlad."
Ychwanegodd Ffred Ffransis, ymgyrchydd Cymdeithas yr Iaith:"Dyw'r môr-ladron yn y Cyngor Sir ddim yn gweld problem gyda gwario llawer iawn o arian ar adeiladau newydd llewyrchus ar gyfer swyddogion yr awdurdod yn Aberystwyth. Ond, ar yr un pryd, maent yn dadlau ei bod hi'n gwbl hanfodol safio ychydig iawn o arian trwy gau ysgolion pentrefol. Dyna eu meddylfryd biwrocrataidd a thwp. Mae'n amser iddyn nhw gerdded y planc!""Yn lle, dylai cynghorau gweld ysgolion fel adnoddau cymunedol a ffordd o adfywio cymunedau. Mae adroddiad diweddar gan Cambridge Policy Consultants yn awgrymu y byddai cau ysgolion yn arbed y nesaf peth i ddim, neu hyd yn oed ddim arian o gwbl i'r gyllideb addysg. Mae'n anghyfrifol iawn, felly, ystyried cau nifer fawr o ysgolion bychain fel mae Cyngor Sir Ceredigion eisiau gwneud."Bydd llong mor-ladron a gemau môr-ladron ar gyfer y plant yn ein huned, a bydd yr awdur Angharad Tomos yn darllen straeon mor-ladron i'r plant. Bydd y protestwyr wedyn yn mynd draw at bafiliwn Ceredigion ar y maes i hawlio eu trysorau yn ôl.Cyhuddo cyngor o fod fel môr-ladron addysg, Golwg360, 31/05/2010Invading pirates call for council bureaucrats to walk the plank, Western Mail, 01/06/2010School closures could hit the Urdd movement' say protesters, Daily Post, 01/06/2010