Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i'r sianel.Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC a'r Llywodraeth gytundeb newydd a fydd yn golygu y bydd gan y gorfforaeth reolaeth lwyr dros gyllideb S4C wedi 2015.Mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C, fe ysgrifennodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n gliriach nag erioed bod y sianel fel darlledwr annibynnol ar fin diflannu. Rydym wedi dweud ers cyhoeddi'r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw ei hannibyniaeth, ac mae hynny'n fwy sicr nag erioed yn dilyn y penderfyniadau diweddaraf. Mae'r BBC ei hun yn wynebu toriadau felly bydd yn anodd iawn i'r gorfforaeth ariannu'r sianel; o gael pennu'r gyllideb beth fydd yn gwarchod buddiannau S4C? Bydd S4C yn cystadlu am gyllideb gyda rhaglenni Saesneg y BBC a does dim posib y bydd y gorfforaeth yn ystyried sianel mae wedi'i llyncu dros ei chynnyrch ei hun.""Mae'r llywodraeth a'r BBC wedi dangos eisoes nad ydynt yn ystyried nac yn parchu'r sianel na Chymru - nid oeddech yn gwybod am y penderfyniad yma nes iddo gael ei ryddhau yn gyhoeddus... Gofynnwn felly i chi [rheolwyr S4C] ymuno a chodi llais gan dynnu allan o drafodaethau gyda'r BBC. S4C fydd y brawd bach a fydd yn cael ei ddiystyru bob tro.""Wrth edrych i'r dyfodol rhaid sicrhau y bydd y sianel yn ffynnu ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth orau i'w chynulleidfa. Er mwyn galluogi hynny gofynnwn i chi alw ar y llywodraeth i dynnu'r sianel o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus er mwyn gwarchod plwraliaeth ac annibyniaeth darlledu yma yng Nghymru. Tynnwyd Channel 4 o'r Mesur felly nid oes rheswm na ddylid gwneud yr un peth gyda S4C. Byddai gwneud y ddau beth hyn yn rhoi neges glir i lywodraeth San Steffan a'r BBC - nad yw S4C yn fodlon cael ei sathru a bod y sianel yn fodlon brwydro dros ddyfodol darlledu yng Nghymru a thros ei chynulleidfa."Mae'r cynlluniau ar gyfer S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i'r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.Yn ei feirniadaeth o'r cynlluniau ar gyfer S4C yn gynharach eleni dywedodd Archesgob Cymru, Barry Morgan:"Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud yngl?n a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o'r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae'n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried.""Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio'r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw."