Mae caredigion y Gymraeg wedi sefydlu gwersyll o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd gan fynnu bod y Llywodraeth yn newid 6 pholisi iaith gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb a newidiadau i’r gyfraith gynllunio er lles y Gymraeg, cyn datganiad gan y Prif Weinidog wythnos yma.
Mae'r weithred gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhan o gyfres y bu ymgyrchwyr iaith yn ei threfnu dros y gwanwyn, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg, yn wyneb y cwymp yn nifer y siaradwyr. Disgwylir y bydd Carwyn Jones yn gwneud datganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad ddydd Mawrth, ddeunaw mis ers cyhoeddiad y ffigyrau a blwyddyn ers i’r Llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar sefyllfa’r iaith - ei “Chynhadledd Fawr”. Dywedodd yr ymgyrchwyr y byddan nhw’n defnyddio eu 6 prif alwad polisi fel meini prawf ar gyfer asesu datganiad y Prif Weinidog.
Meddai Cen Llwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae gan Carwyn Jones gyfle i weithredu’n ddewr yr wythnos yma; hynny wedi deunaw mis o oedi, esgusodion, a datganiadau chwerthinllyd ganddo fe. Ar y llaw arall, ry’n ni wedi cael adroddiad clodwiw yn galw am symud dros amser at addysg Gymraeg i bawb, a chynnydd sylweddol yn y buddsoddiad yn yr iaith. Yr hyn sydd ar goll yw gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae pobl Cymru yn gefnogol iawn o’n hiaith genedlaethol unigryw, ond, ydy’r iaith yn ddigon o flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Carwyn Jones? Ydy Carwyn Cysglyd Jones yn mynd i ddeffro? Dyna’r cwestiynau a gaiff eu hateb yr wythnos yma.”
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Dw i’n falch iawn o allu bod yma heddiw - ‘dan ni eisiau byw yn Gymraeg a gweld gweithredu er mwyn sicrhau hynny. Ers deunaw mis, ‘dan ni wedi llythyra a chynnal cyfarfodydd efo aelodau pob plaid. Wrth brotestio yma, ‘dan ni’n dal i obeithio y gwelwn ni newid cadarnhaol, achos efo ewyllys gwleidyddol, mi allai’r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.”
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Ymysg y prif argymhellion roedd cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.