Hawliau iaith anghyflawn i bobl Cymru

Cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith terfynol yn rhwystro'r ffordd at hawliauWedi cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) terfynol ar yr iaith Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn siomedig nad yw Llywodraeth 'sosialaidd' wedi gweithredu o blaid pawb yng Nghymru sydd am ddefnyddio'r Gymraeg ac am weld y Gymraeg yn iaith normal yng Nghymru.Er bod tystiolaeth gref wedi ei roi gan Gymdeithas yr Iaith, Mudiadau Dathlu'r Gymraeg a Llywodraeth Catalonia, sydd â deddf iaith sy'n cynnwys y sector breifat, yn galw am i'r holl bwerau dros yr iaith Gymraeg i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yng Nghymru, ac adroddiadau cadarnhaol y pwyllgorau craffu a ddeilliodd o hynny, mae'r Gorchymyn Iaith Gymraeg yn cynnwys pwerau cyfyng iawn.

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:''Mae'r Gorchymyn yn awr yn cynnwys cwmniau bysiau ar ôl i ni ddadlau'n gryf nad yw hi'n gwneud synnwyr fod cwmnïau trenau'n cael eu cynnwys ond gwasanaethau trafnidiaeth eraill yn cael eu hepgor. Ond ni fydd mesur iaith sy'n deillio o'r Gorchymyn yn gallu cynnig hawliau cyflawn i'r sawl sydd am ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn y gweithle, neu eisiau gwasanaethau Cymraeg yn rhan helaeth y sector breifat neu addysg Gymraeg i'w plant. Naill ai mae gan rywun hawl neu beidio; ydi'r Llywodraeth wirioneddol yn meddwl y bydd hi'n haws i ddefnyddio'r Gymraeg os oes disgwyl i bobl wybod pa gwmnïau sy'n derbyn £400,000 o arian cyhoeddus y flwyddyn er mwyn cael eu hawliau?"Ychwanegodd:"Mae Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis rhwystro mynediad pobl Cymru at y Gymraeg. Pa wahaniaeth gwirioneddol mae'r Gorchymyn yn mynd i'w wneud ym mywyd dydd i ddydd bobl Cymru? Mae'n well gan Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad blesio busnesau mawr ac elfennau gwrth-Gymreig o fewn y Blaid Lafur na gwneud gwahaniaeth real i sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru."Ychwanegodd:"Ni fydd modd cynnwys hawliau cyflawn mewn mesur i roi urddas a chyfartaledd ieithyddol i bobl Cymru, fel yr addawyd yn nogfen Cymru'n Un, gyda phwerau mor gyfyngedig."Bydd Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu carchariad ar Dachwedd 6ed am ei fod yn gwrthod talu dirwy wedi iddo weithredu yn erbyn Boots, Superdrug, Matalan a PC World yn gynharach yn y flwyddyn, am ei fod yn credu y dylai gael yr hawl i wasanaethau Cymraeg yn y siopau yma. Ni fydd modd iddo ddefnyddio'r Gymraeg yn y siopau hyn, hyd yn oed yn dilyn Mesur Iaith gan y Cynulliad.