Hawliau iaith i ddathlu? Cefnogaeth i newid y safonau iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried gwobrwyo Llywodraeth Cymru gyda ‘medal aur’ os caiff hawliau iaith clir ei sefydlu. Daw’r newyddion wedi i ymgyrchwyr iaith lansio datganiad dros newidiadau i’r safonau iaith newydd heddiw (2:30pm, Dydd Mawrth, Awst 5ed).   

Mae Penri Williams, Cadeirydd y grŵp ymbarel Dathlu’r Gymraeg, ynghyd â nifer o Aelodau Cynulliad wedi llofnodi datganiad sy’n galw ar y Llywodraeth i wella’r dyletswyddau newydd a fydd yn disodli cynlluniau iaith. Ymysg y newidiadau mae’r datganiad yn galw amdanynt yw sicrhau bod y rheoliadau newydd yn creu hawliau clir i bobl; peidio â gadael i gyrff gynnig gwasanaethau sy'n llai na’r cynlluniau iaith presennol; galluogi rhagor o gyrff i weithredu'n fewnol yn Gymraeg; a sicrhau bod gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan yn cael eu darparu yn yr iaith.

Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rwy’n falch bod ein hymgyrch yn dechrau cael effaith ar y Llywodraeth gan eu bod nhw wedi gorfod cynnwys elfen o hawliau i chwarae yn Gymraeg. Rydyn ni’n disgwyl i Carwyn Jones gadw at ei air i wrando ac i weithredu’r newidiadau er mwyn datrys y gwendidau sylfaenol yn ei safonau drafft. Mae cannoedd o’n haelodau, a Chomisiynydd y Gymraeg, wedi pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn cael hawliau clir, yn hytrach na rheoliadau sydd ond yn hwylus i gyrff a chwmnïau. Os ydy’r Llywodaeth yn creu hawliau clir, dealladwy a chynhwysfawr, rwy’n fodlon ysytyried eu gwobrwyo gyda medal aur.

“Rydyn ni’n obeithiol y bydd y Llywodraeth yn gwrando - dyna be maen nhw wedi addo gwneud. Fodd bynnag, fel saif y safonau iaith ar hyn o bryd, byddai’r Llywodraeth yn torri nifer o addewidion a wnaed gan y Prif Weinidog. Maen nhw’n caniatáu i gyrff gynnig gwasanaethau llai na chynlluniau iaith ac yn caniatáu i wasanaethau sydd wedi eu contractio allan fod yn uniaith Saesneg. Mae nifer o gyrff hefyd am symud at sefyllfa lle maen nhw'n gweinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, ond dyw'r safonau ddim yn cynnig dim modd i gefnogi'r dyhead yna. Yn wir, does dim un o’r safonau yn anelu at sicrhau bod cyrff yn cyflogi staff gyda sgiliau iaith er mwyn darparu gwasanaeth yn Gymraeg.”

Ymysg llofnodwyr y datganiad mae:

Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Simon Thomas AC, Eisteddfod Genedlaethol, Meirion Morys Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Geraint Tudur Undeb Annibynnwyr Cymru, Undeb Bedyddwyr Cymru, Llyr Gruffydd AC, Jane Harries Cymdeithas y Cymod, Penri Williams Dathlu'r Gymraeg, Simon Thomas AC, Gareth Clubb Cyfeillion y Ddaear, Meinir Ffransis Cadwyn Cyf, Rhodri Glyn Thomas AC, Elen Davies Llywydd Cenedlaethol UCAC, Leanne Wood AC