Heledd Gwyndaf yw Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith

Mae mam o Dalgarreg, Ceredigion wedi ei hethol fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dilyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y mudiad dros y penwythnos  

Cafodd Heledd Gwyndaf ei geni ym Mangor a threulio cyfnod ym Mhen Llyn. Ond, symudodd i'r De yn weddol ifanc ac aeth i Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, Ysgol y Strade, Llanelli ac i Ysgol Dyffryn Teifi. Mynychodd Brifysgol Bangor i astudio Hanes a Chymraeg ac i'r Unol Daleithiau i ennill gradd meistr mewn Theoriau Dysgu ac Addysgu 

Wedi cyfnodau o weithio ym maes darlledu, cyfathrebu ac addysg, mae hi bellach yn byw ar fferm odro yn Nhalgarreg gyda'i gwr Hywel a thri o blant - Gwydion, Gruffudd a Gwenllian.  

Yn siarad wedi iddi gael ei hethol fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd Heledd Gwyndaf:  

"Mae'n fraint ar y naw bod yn Gadeirydd ar fudiad mor allweddol â Chymdeithas yr Iaith, mudiad sy'n cynnig gobaith i'r Gymraeg. Dechreuais i ymwneud mwy mwy â'r Gymdeithas wedi i mi dderbyn llythyr personol wrth un o hoelion wyth y mudiad, Ffred Ffransis, tra yn y Brifysgol ym Mangor.    

"Mae'r mudiad wedi sicrhau, gan gydweithio ag eraill, nifer o fuddugoliaethau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan gynnwys cryfhau statws y Gymraeg yn y Bil Cynllunio, atal toriadau pellach i S4C ynghyd â sicrhau bod pob disgybl yn astudio ar gyfer yr un cymhwyster Cymraeg. Rwy'n gobeithio adeiladu ar y llwyddiannau hynny. Mae tîm arbennig o swyddogion gwirfoddol a chyflogedig yn y Gymdeithas, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle ymgyrchu gyda nhw. Rwy'n awyddus i weld pwyslais pellach yn cael ei roi ar gryfhau'r mudiad ar lawr gwlad  ac yn edrych ymlaen at yr her."