Hen Galan – Agwedd Ieithyddol Newydd

09rali-caerdydd-ion09.jpgYn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmnïau. Hyd yn hyn does fawr ddim gwelliant wedi'i weld o gwbl."

Fe aeth Cymdeithas yr Iaith a'u neges at y busnesau gan orymdeithio drwy Stryd y Frenhines cyn symud ymlaen i'r Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays, i gyflwyno llythyr i Alun Ffred, y gweinidog â goruchwyliaeth dros y Gymraeg.Ymysg aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y rali roedd Caryl Parry Jones, Morgan Hopkins, Catrin Dafydd a Bethan Williams yn annerch a grŵp gwerin y Fari Lwyd yn cynnig adloniant.Fel rhan o'u hymgyrch mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn am dri phrif beth sef statws cyflawn i'r iaith Gymraeg, creu swydd Comisiynydd Iaith a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau.Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae busnesau yn y sector breifat yn dal i sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg ac mae'n hen bryd i'r Llywodraeth sylweddoli hyn ac ymateb drwy sicrhau y bydd y Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn un cynhwysfawr fydd yn sicrhau hawliau unigolion. Heb sicrhau statws, hawliau a chreu Comisiynydd iaith yn mesurau iaith i ddilyn mi fydd ymdrechion i gywiro anghyfartaledd ieithyddol yng Nghymru yn methu."Dywedodd Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn dilyn y Rali:"Rydym ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth i'r Rali gan drigolion Caerdydd heddiw. Fe wnaeth dros 300 o aelodau'r Gymdeithas ynghyd a thrigolion lleol oedd yn ein cefnogi anfon neges glir i'r Llywodraeth ein bod ni o ddifri am fynnu hawliau i gael defnyddio'r Gymraeg ym mhob sffer o'n bywydau. Wrth orymdeithio i lawr Heol Y Frenhines a phasio'r holl gwmniau a siopau mawr fel Orange a Vodafone sy'n dominyddu ein bywydau cawsom ein hatgoffa o'r newydd, bod yn rhaid i unrhyw Orchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol fydd yn trosglwyddo pwerau i Gaerdydd fod yn ddigon eang i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu o blaid hawliau i siaradwyr Cymraeg yn y sector gyhoeddus A'R sector breifat, gan mai'r sector breifat sydd yn dominyddu ein bywydau o ddydd i ddydd erbyn heddiw."01rali-caerdydd-ion09.JPG02rali-caerdydd-ion09.JPG\03rali-caerdydd-ion09.JPG\04rali-caerdydd-ion09.JPG05rali-caerdydd-ion09.JPG06rali-caerdydd-ion09.JPG07rali-caerdydd-ion09.JPG08rali-caerdydd-ion09.JPGLluniau: Rhys LlwydMwy o luniau o'r Rali.10rali-caerdydd-ion09.jpgLlun: Danny Grehan