Her funud olaf ynghylch Ysgolion Pentrefol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn ystod y dyddiau olaf cyn yr Etholiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob arweinydd plaid yn gofyn am ateb syml "IE" neu "NA" i gwestiwn allweddol i ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg. Mae'r Gymdeithas yn holi a fydd y Gweinidog Addysg newydd - os bydd yn dod o'u plaid nhw - yn cytuno i gyfarfod a dirprwyaeth o rieni, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr sy'n ymboeni am ddyfodol ysgolion pentrefol.

Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis, "Bu Jane Davidson mewn cyfarfodydd gyda Chymdeithas yr Iaith i drafod y mater yn 2000 a 2002. O ganlyniad, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ganllawiau newydd ar ddyfodol ysgolion bach gan fynnu fod yn rhaid ystyried effaith cau ysgolion ar yr iaith ac ar y gymuned leol a bod yn rhaid archwilio pob posibiliad heblaw am gau ysgolion. Gofynnodd Jane Davidson am i bawb roi cyfle i'r canllawiau newydd weithio. Ers hynny, mae cynghorau fel Caerfyrddin wedi anwybyddu'n llwyr y canllawiau gan wneud ffars o brosesau ymgynghori, ond mae Jane Davidson wedi gwrthod pob apel. Ers 2002 mae Jane Davidson wedi gwrthod cyfarfod ag unrhyw grwp o ymgyrchwyr na rhieni i drafod dyfodol ysgolion pentrefol, gan ddanfon neges glir at Awdurdodau Lleol fod rhwydd hynt iddynt fynd ymlaen i gau'r ysgolion."Os bydd Gweinidog Addysg newydd yn cyhoeddi'n syth ei fod yn barod i gyfarfod i drafod y mater, fe fydd gobaith newydd i'n hysgolion pentre ac arwydd y bydd yn rhaid i Awdurdodau Lleol gadw'n bendant at y canllawiau. Mae'n gwestiwn syml, ac y mae'r etholwyr yn haeddu ateb."