Hysbysebion yn nodi blwyddyn ers canlyniadau ‘argyfyngus’ y Cyfrifiad

Mae hysbysebion sy’n galw ar i’r Llywodraeth weithredu mewn ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg wedi ymddangos yn y wasg heddiw, union flwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos bod cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.

Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011, roedd 562,000 (19%) o bobl yng Nghymru dros dair oed yn siarad Cymraeg o gymharu â 582,368 (21%) yn 2001. Yn yr hysbysebion sy’n ymddangos mewn nifer o bapurau heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i’r Llywodraeth ddatgan ei bwriad i weithredu yn y chwe maes canlynol er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod:

1. Addysg Gymraeg i Bawb

2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg

3. Llywodaeth Cymru ac Awdurodau Lleol i osod esiampl trwy weinyddu'n fewnol yn Gymraeg

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir

5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau

6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

Dywed yr hysbyseb: “Rydyn ni eisiau byw yn Gymraeg, ond mae amser yn brin. Rydyn ni’n colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Mae nifer y cymunedau Cymraeg wedi dirywio, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Blwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, beth mae Carwyn Jones yn ei wneud i ymateb i’r argyfwng?”

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar: Pan gyhoeddwyd canlyniadau'r cyfrifiad flwyddyn yn ôl, roedd hi’n amlwg bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng. Er yr holl siarad, dydy Carwyn Jones ddim wedi gweithredu o ddifri er lles yr iaith. Mae'n hen bryd iddo dangos arweiniad yn y chwe maes yma, er mwyn i bobl a chymunedau allu byw yn Gymraeg.”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn llu o adroddiadau swyddogol sy’n cadarnhau’r angen am newidiadau polisi sylfaenol. Mae’r adroddiadau hyn yn cefnogi’r prif alwadau sydd yn ein Maniffesto Byw - megis addysg Gymraeg i bawb, chwyldroi’r system gynllunio a hawliau iaith clir. Ond, mewn nifer o feysydd, mae Carwyn Jones yn mynd yn y cyfeiriad anghywir -  mae ei doriadau i’r buddsoddiad yn y Gymraeg yn gweithredu’n gwbl groes i argymhellion y Gynhadledd Fawr.”

“Dewch gyda ni i Aberystwyth ddydd Sadwrn, er mwyn dangos ein bod ni eisiau byw yn Gymraeg a mynnu bod rhaid i Carwyn Jones weithredu.”

Mae’r grŵp pwyso yn galw ar i holl garedigion yr iaith ddod i’w rali yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg, flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.