Hysbysiad statudol Ysgol Plasdŵr: Gwrthwynebiad swyddogol gan Gymdeithas yr Iaith

Nodir yma gwrthwynebiad swyddogol Cymdeithas yr Iaith i hysbysiad statudol Cyngor Caerdydd o'r bwriad i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr.

Gallwn grynhoi prif bwyntiau ein hymateb i'r hysbysiad swyddogol fel a ganlyn:

  • Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu hysbysiad statudol Cyngor Caerdydd i agor ysgol ddwy ffrwd ddwyieithog fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr. 

  • Rydym yn seilio ein gwrthwynebiad ar bryderon ynglŷn â phroses yr ymgynghoriad a datganiadau gan Gabinet y Cyngor ac ystyriaethau addysgol. Amlinellir y rhain isod yn eu tro. 

  • Credwn taw ysgol benodedig Gymraeg gyda dwy ffrwd cyfrwng Cymraeg ddylai'r ysgol newydd fod ym Mhlasdŵr, nid ysgol ddwyieithog. 

  • Credwn ymhellach y dylai pob un o'r ysgolion newydd fydd yn cael eu hagor fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, er mwyn sichrau bod pob person ifanc yn y gymuned yn tyfu lan yn siarad Cymraeg.

  • Er mwyn i Gaerdydd wneud y cyfraniad sydd ei angen tuag at y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae angen i'r ddinas wneud cynnydd dramatig a chyflym yng nghanran y plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, ac felly ysgol benodedig Gymraeg sydd ei hangen ym Mhlasdŵr.

Pryderon am broses yr ymgynghoriad a datganiadau gan y Cabinet

1. Mewn trydariad ym mis Medi 2018, dywedodd arweinydd y Cyngor: "i fod yn glir bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr." Nid yw'n glir i ni pam felly y gwnaeth Cabinet y Cyngor benderfynu ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol ddwyieithog, a thorri'r addewid cyhoeddus hwn gan yr arweinydd. 

2. Mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus y Cyngor ar y cynllun, dim ond 8% o'r ymatebion oedd yn cefnogi'r bwriad i agor ysgol ddwyieithog 15 ymateb i gyd. Cyflwynwyd ddeiseb gan Gymdeithas yr Iaith fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad gyda llofnodion gan  876 yn cefnogi ysgol benodedig Gymraeg yn hytrach nag ysgol ddwyieithog. 

3. Ni all y Cyngor felly honni bod cefnogaeth ymysg y cyhoedd i'r bwriad i agor ysgol ddwyieithog. 

4. Anghywir felly oedd y datganiad cyhoeddus gan Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Dirpwy Arweinydd, y Cynghorydd Sarah Merry yn dweud: "Rhoddodd yr ymgynghoriad cyhoeddus gyfle i bobl gael dweud eu dweud ac rwy'n falch fod mwyafrif yr ymatebion a ddaeth i law yn gefnogol i'r cynigion ar gyfer datblygu ysgol newydd." 

5. Er bod mwyafrif o ymatebwyr wedi cefnogi sefydlu ysgol, nid oedd mwyafrif o blaid ysgol ddwyieithog. Dyma ddatganiad camarweiniol ac anghyfrifol felly gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor sy'n methu â chyrraedd y safonau y mae hawl gennym eu disgwyl gan ein haelodau etholedig. 

6. Ymhellach, roedd yr adroddiad a osodwyd gerbron y Cabinet yn rhoi darlun gamarweiniol o'r gefnogaeth i'r cynllun. Mae'r adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar yr ymgynghoriad yn nodi:

"Roedd mwyafrif y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn gefnogol i'r cynnig gyda 58% (99) o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio sefydlu ysgol gynradd newydd dau ddosbarth mynediad i wasanaethu rhannau o ddatblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin Caerdydd gyda 9% (15) o'r rhai a ymatebodd yn cyfeirio'n benodol at gefnogi'r syniad o ysgol ddwy ffrwd yn hytrach nag un ai ysgol Gymraeg neu Saesneg yn unig." 

Fodd bynnag, nid yw ail gymal y frawddeg hon, sy'n cyfeirio at y ffaith taw dim ond 15 o ymatebion oedd yn cefnogi sefydlu ysgol ddwyieithog, yn ymddangos yn yr adroddiad a aeth i'r Cabinet, adroddiad sydd fel arall bron yn unfath ei gynnwys i'r adroddiad i'r pwyllgor

Dyma hepgor darn bwysig o wybodaeth am y sefyllfa, ac mae'n anodd peidio â dod i'r casgliad taw'r bwriad wrth wneud hyn ydy camarwain a lliwio'r drafodaeth yn y Cabinet.

7. Ymhellach, dywedodd y Cyngor mewn gwerthusiad o ymatebion i'r ymgynghoriad gerbron Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor:  

"mae risg sylweddol y gallai ysgol Gymraeg yn unig, ddwy ffrwd, ddenu gormod o ddisgyblion o ysgolion a dalgylchoedd Cymraeg eraill gan beri tan-danysgrifio i'r ysgolion hynny, gan eu gwneud yn llai diogel yn ariannol. Gallai hyn wedyn, amharu ar gynnydd yn y niferoedd sy'n mynd i lefydd mewn addysg Gymraeg yn yr ardal ehangach am gyfnod estynedig."

8. Damcaniaeth ddi-sail ac afresymegol ydy hon. Yn enwedig mewn cyd-destun lle mae'r ysgol yn cael ei sefydlu o ganlyniad i dwf cyflym yn y boblogaeth leol o achos datblygiad enfawr newydd, nid yw'r ddadl y byddai agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig yn niweidio ysgolion Cymraeg eraill yn dal dŵr. Bydd y nifer o blant yn yr ardal yn cynyddu'n aruthrol nid cystadlu am yr un disgyblion fydd ysgolion Cymraeg lleol. Tueddiad y rhan helaeth o bobl yn yr ardal fydd anfon eu plant i'r ysgol agosaf waeth beth yw'r cyfrwng. Dyma gyfle euraidd felly i wneud addysg cyfrwng Cymraeg yn norm i'r gymuned newydd hon trwy agor ysgol benodedig Gymraeg fel yr ysgol gyntaf, a'r ysgolion eraill newydd fydd yn dilyn hefyd.

9. Mae ymddygiad y Cyngor ynghylch y mater hwn wedi bod yn hynod siomedig, ac wedi dangos tueddiad i gamarwain ac anwybyddu trigolion y ddinas, gan danseilio polisi iaith genedlaethol Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad honedig y Cyngor i ehangu addysg Gymraeg. 

Ystyriaethau addysgol

1. Credwn taw ysgol benodedig Gymraeg gyda dwy ffrwd cyfrwng Cymraeg ddylai'r ysgol newydd fod ym Mhlasdŵr, nid ysgol ddwyieithog. 

2. Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai hwn yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu'n gyflym y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a dechrau normaleiddio addysg Gymraeg yn y ddinas. Drwy beidio defnyddio'r cyfalaf ariannol sy'n dod gyda'r datblygiad tai anferth hwn i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, byddai'r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau'r rhan helaeth o bobl yn yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.

3. Nid ydym yn derbyn rhesymeg y Cyngor am sgiliau ieithyddol disgyblion yr ysgol ddwyieithog arfaethedig. Dim ond trwy sefydlu ysgol benodedig Gymraeg y bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg nid yw ysgolion dwyieithog yn sicrhau rhuglder plant yn y Gymraeg yn yr un modd. Gyda'r cynnig hwn, byddai'r Cyngor ar yr un pryd yn amddifadu disgyblion y ffrwd cyfrwng Saesneg o ruglder yn y Gymraeg, a hefyd yn peri risg i amgylchedd ieithyddol a defnydd y Gymraeg yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg.

4. Er mwyn cyrraedd y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, mae'n hanfodol bod cynghorau sir yn cynyddu eu darpariaeth o addysg Gymraeg nawr.

5. Mae dadansoddiad ystadegol a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith wedi dangos bod yn rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg, er mwyn cyfrannu at greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae'r dadansoddiad yn dangos faint o blant saith mlwydd oed Caerdydd ddylai fod mewn addysg Gymraeg er mwyn gwneud y cyfraniad sydd angen gan Gaerdydd at y targed:

Blwyddyn

2025

2030

2035

2040

% plant 7 mlwydd oed mewn addysg Gymraeg

32.8%

43%

56.4%

71.8%

6. Yn 2014, dim ond 15.1% o blant saith oed Caerdydd oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n glir felly bod agor nifer o ysgolion Cymraeg newydd, ynghyd â Chymreigio ysgolion presennol y ddinas, yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau Caerdydd i gyfrannu at y nod cenedlaethol.

7. Byddai agor ysgol benodedig Gymraeg fel ysgol gyntaf y datblygiad enfawr hwn yn hwb mawr i'r Gymraeg yn yr ardal a Chaerdydd i gyd gan osod cynsail i agor ysgolion penodedig Cymraeg mewn datblygiadau newydd eraill a normaleiddio addysg Gymraeg ym mhob cymuned a hynny nid yn unig yn y brifddinas ei hun, ond fel esiampl i'w dilyn gan siroedd eraill.

8. Credwn fod y Gymraeg yn hawl i bob plentyn yng Nghaerdydd, o ba gefndir bynnag. Mae angen i Gyngor Caerdydd ddangos uchelgais a gwireddu'r hawl hon i bob person ifanc ym mhrifddinas Cymru trwy agor ysgolion penodedig Cymraeg yn unig ym Mhlasdŵr, ac ar draws holl gymunedau'r ddinas yn ystod y blynyddoedd i ddod. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ymateb hwn a'r materion sy'n codi ohono, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.

Cell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith

Mis Mawrth 2020