Lansiad Poster ar y Mesur Iaith - 'Ydi'r Gweinidog yn gwrando ar Gymru?'

poster-caerdydd-tach10.jpgDadorchuddiwyd poster enfawr gan ymgyrchwyr iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw yn dangos y Gweinidog Treftadaeth gyda'i ddwylo dros ei glustiau yn anwybyddu barn yr holl fudiadau ac unigolion sydd am gryfhau'r Mesur Iaith. Dywed y poster:"'Statws swyddogol i'r Gymraeg a hawliau i unigolion'Ydi'r Gweinidog yn gwrando ar Gymru?Mae datganiadau diamod o statws swyddogol yn gyffredin ledled y bydNi all 85 o Gymry amlwg, 13 cyfreithiwr, nifer sylweddol o fudiadau, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, pwyllgor trawsbleidiol na Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ddeall pam na wnaiff y Gweinidog gymryd y cam syml hwn er lles y Gymraeg yng Nghymru heddiw."Pythefnos yn ôl, cyflwynwyd llythyr i 'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones gan 85 o Gymry amlwg yn galw am newidiadau i'r Mesur. Wedyn bu tri o Gymry amlwg y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, y ddarlledwraig Beti George a'r Athro Richard Wyn Jones mewn cyfarfod gyda'r AC dros Arfon yn trafod yr egwyddorion yn y llythyr.Cyflwynodd protestwyr ddeiseb gyda dros fil o enwau yn galw ar y llywodraeth i gyflawni addewidion dogfen Cymru'n Un. Wrth gyflwyno'r ddeiseb a lofnodwyd gan dros fil o bobl, fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd y gr?p Hawliau i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:poster_alunffred.jpg"Ein galwad ni yw ar i Alun Ffred Jones sicrhau fod yna hawliau clir i'r Gymraeg i holl drigolion Cymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Rydym am weld fel lleiafswm bod yna weithdrefn ddigolledu yn cael ei sefydlu fel cam tuag at ddiogelu hawliau iaith pobl Cymru, a bod yna ddatganiad diamod yn y Mesur Iaith arfaethedig fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.""Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw o'r cychwyn am sefydlu hawliau eglur i bobl Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yn y Mesur. Fel mae'r Mesur ar hyn o bryd, nid yw'r Llywodraeth hyd yn oed wedi cynnwys mater sylfaenol fel digolledu pobl oherwydd methiannau sefydliadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith ac eraill wedi cynnig modelau posibl y gall y Llywodraeth eu cynnig yn y Mesur.""Rydym yn ymwybodol na fydd Mesur Iaith ynddo ei hun yn ddigon i achub yr iaith Gymraeg. Er hynny mae cyfrifoldeb ar y Gweinidog Treftadaeth a gweddill aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol i unioni'r cam wnaed a'r Gymraeg dros y canrifoedd. Galwn arnynt i wneud popeth yn ei gallu i gryfhau'r Mesur siomedig hwn fel na fyddwn yn parhau i ymladd yr un hen frwydrau yn y blynyddoedd sydd i ddod."