Lansio corff cyfathrebu newydd i Gymru yn lle Ofcom

Bydd corff newydd i reoleiddio darlledu yng Nghymru yn cael ei lansio, yn lle’r corff Prydeinig presennol, mewn cyfarfod yng ngerddi Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar Daf heddiw (dydd Llun, 24ain Mehefin).

Mae’r cyhoeddiad am y bwriad i greu corff cysgodol i reoli cyfathrebu yng Nghymru yn dilyn cyfres o benderfyniadau dadleuol gan y rheoleiddiwr presennol, Ofcom, sydd, yn ôl sefydlwyr y corff newydd, yn ‘tanseilio lle Cymru a’r Gymraeg yn y cyfryngau’.

Eleni, caniataodd Ofcom, y Swyddfa Cyfathrebiadau, i ddiddymu sioeau brecwast Capital oedd yn cael eu darlledu o Gymru, gyda sioe wedi ei darlledu o Lundain yn eu lle. Mae swyddogion Ofcom yn Llundain hefyd wedi dyfarnu ei bod yn iawn i Radio Ceredigion, sy’n gwasanaethu ardal ble mae tua hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg, ddarlledu dim byd yn Gymraeg. Mae’r rheoleiddiwr yn dadlau nad oes modd iddyn nhw osod amodau iaith ar radio masnachol, ond mae Comisiynydd y Gymraeg yn anghytuno gan ddweud bod modd i’w wneud yn unol â’r gyfraith bresennol.

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio yn Hendy-gwyn ar Daf, mae disgwyl i Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Lois Campbell, ddweud:

“Mae hwn yn gam arall ymlaen yn y broses o ddatganoli darlledu i Gymru. Mae’n synnwyr cyffredin yn dweud bod angen penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru.

“Ers dyddiau cynnar yr ymgyrch dros hunanreolaeth yn ôl yn y pumdegau, roedd gwleidyddion o Llafur, y Rhyddfrydwyr a Plaid Cymru yn gweld darlledu fel maes amlwg a ddylai fod yn rhan o’r setliad datganoli. Mewn gwledydd datganoledig fel Gwlad y Basg a Chatalwnia, mae pwerau dros y maes wedi cael eu datganoli ers degawdau, ac mae eu cyfryngau nhw yn llawer iawn mwy datblygedig o ganlyniad - gyda sawl sianel deledu a gorsaf radio eu hunain.”

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r system bresennol yn tanseilio lle Cymru a’r Gymraeg yn y cyfryngau. Does dim amheuaeth am hynny, ac mae eu hymrwymiad i amddiffyn buddiannau busnesau mawrion be bynnag a ddaw yn gwneud pethau’n waeth ac yn waeth. Ar hyn o bryd mae diffyg sylw difrifol i faterion Cymreig a’r Gymraeg. Mae’r system bresennol yn fygythiad real i ddemocratiaeth Cymru ac i’r iaith Gymraeg. Felly heddiw, rydyn ni’n symud ymlaen â’r broses i unioni’r cam hwnnw. Mae hyn yn golygu diddymu dylanwad Ofcom yng Nghymru a sefydlu’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.“

“Bydd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn creu strwythur rheoleiddio ym maes darlledu a chyfathrebu, yn datblygu polisïau ac yn llunio’r camau sydd rhaid eu cymryd i ddatganoli’r maes yng Nghymru, i Gymru. Mae’r Llywodraeth wedi gwrthod ymgymryd â’r gwaith hwn, felly bwrwn ymlaen ein hunain.”

Mae modd enwebu pobl i fod ar Fwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wrth ymweld â cyfathrebu.cymru. Bydd enwau'r rhai sydd wedi’u hethol yn cael eu cyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.