Lansio Deiseb 'Gyrrwch yn Gymraeg'

Steddfod yr Urdd Ar hyn o bryd mae'r Asiantiaeth Safonau Gyrru yn methu cynnig gwasanaeth Cymraeg i Gymry ifanc sydd am ddysgu gyrru. Mae hyn wedi digwydd er fod gan yr Asiantiaeth Ddysgu Gyrru Gynllun Iaith sydd wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn yr Eisteddfod bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio deiseb sy'n galw ar i’r ASG i ddarparu gwasanaeth safonol cyflawn Cymraeg. Yn ogystal dylai'r gwallau iaith mewn profion gael eu cywiro, a dylai’r gwaith cyfieithu gael ei wneud yn swyddogol i sicrhau’r cywirdeb iaith angenrheidiol.Steddfod yr UrddFel rhan o'r lansiad bydd y Gymdeithas wedi trefnu theatr awyr agored er mwyn dangos unwaith eto mai’r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau fod sefydliadau tebyg i'r ASG yn dilyn polisi dwyieithog yw Deddf Iaith Newydd.Stori oddi ar wefan GOLWG