Lansio Deddf Addysg

Rydyn ni'n galw ar y Llywodraeth i osod nod statudol mai’r Gymraeg fydd iaith cyfundrefn addysg Cymru erbyn 2050 wrth gyhoeddi ein Deddf Addysg Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ymgynghoriad yn yr hydref fel rhan o’i hymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes o fewn y pedair blynedd nesaf.

Wrth gyhoeddi ein Deddf ein hunain yn y Brifwyl, fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad gyda mudiadau addysg a’r cyhoedd ar ei chynnwys. Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi llunio’r Ddeddf ar lun gweledigaeth a pholisïau’r Gymdeithas.

Bydd yr ymrwymiad i osod nod o sefydlu system addysg uniaith Gymraeg i bawb erbyn 2050 yn rhan o becyn o fesurau llawn sy’n cael ei lansio gan y mudiad yr wythnos nesaf. Ymhlith y mesurau eraill bydd

  • cael gwared ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan gyflwyno un Fframwaith Addysg Gymraeg Cenedlaethol yn eu lle
  • sefydlu’r egwyddor o un cymhwyster Cymraeg mewn statud, gan gael gwared ar y cymwysterau Cymraeg Ail Iaith sy'n gadael cymaint o'n pobl ifanc i lawr

Meddai Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg,  Jeremy Miles. Mae addysg cyfrwng Cymraeg i bawb o fewn cyrraedd am y tro cyntaf erioed. Rydyn ni’n galw am osod mewn statud mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, gyda phob ysgol ar lwybr i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bawb erbyn 2050.

"Rydyn ni am ysgogi sgwrs eang ar lawr gwlad am ddarn o ddeddfwriaeth hollbwysig fydd yn effeithio ar gyfleoedd economaidd a diwylliannol miloedd o blant am weddill eu bywydau.”

Mae'r Ddeddf i'w gweld yma