Leighton Andrews: Galw ar i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn sgil ymddiswyddiad Leighton Andrews.

Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Yng Nghatalonia mae arweinydd y wlad wedi bod yn gyfrifol am y portffolio iaith. Cawsom gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones i drafod sefyllfa’r iaith Gymraeg yn gynharach eleni - roedd yn fodlon ystyried llawer o’r argymhellion yn ein Maniffesto Byw. Rŵan yw’r cyfle iddo benderfynu gweithredu ar rai o’r argymhellion hynny. Rydym yn edrych ‘mlaen at gyfarfod ag o eto yn y Gynhadledd Fawr wythnos nesaf - mae’r Gynhadledd yn gyfle iddo ddangos bydd polisïau yn newid er lles y Gymraeg.

“Ar adeg mor dyngedfennol i’r iaith gyda sefyllfa S4C yn fantol, yr angen am ymateb cryf i ganlyniadau’r Cyfrifiad a’r safonau iaith arfaethedig, byddai’n dda cael arweiniad clir o’r lefel gwleidyddol uchaf. Yr hyn sydd wir ei angen yw prif-ffrydio’r iaith ar draws gwaith holl adrannau’r Llywodraeth - fel mae’r oedi dros y TAN 20 [canllawiau cynllunio] newydd yn ei ddangos. Dim ond gydag arweiniad o’r top gall bolisïau newid yn y ffordd sydd  angen, yn draws-adrannol, er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Byddai hefyd yn arwydd bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif gan y Llywodraeth.”