
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn sgil ymddiswyddiad Leighton Andrews.
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Yng Nghatalonia mae arweinydd y wlad wedi bod yn gyfrifol am y portffolio iaith. Cawsom gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones i drafod sefyllfa’r iaith Gymraeg yn gynharach eleni - roedd yn fodlon ystyried llawer o’r argymhellion yn ein Maniffesto Byw. Rŵan yw’r cyfle iddo benderfynu gweithredu ar rai o’r argymhellion hynny. Rydym yn edrych ‘mlaen at gyfarfod ag o eto yn y Gynhadledd Fawr wythnos nesaf - mae’r Gynhadledd yn gyfle iddo ddangos bydd polisïau yn newid er lles y Gymraeg.
“Ar adeg mor dyngedfennol i’r iaith gyda sefyllfa S4C yn fantol, yr angen am ymateb cryf i ganlyniadau’r Cyfrifiad a’r safonau iaith arfaethedig, byddai’n dda cael arweiniad clir o’r lefel gwleidyddol uchaf. Yr hyn sydd wir ei angen yw prif-ffrydio’r iaith ar draws gwaith holl adrannau’r Llywodraeth - fel mae’r oedi dros y TAN 20 [canllawiau cynllunio] newydd yn ei ddangos. Dim ond gydag arweiniad o’r top gall bolisïau newid yn y ffordd sydd angen, yn draws-adrannol, er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Byddai hefyd yn arwydd bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif gan y Llywodraeth.”