
Ar yr un diwrnod ag y cynhelir symposiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd ar "Y Gymraeg a Phêl-droed", a ddiwrnod cyn gêm gyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd un o sêr ifainc pêl-droed Cymru yn cyflwyno noson fawr "Y Wal Goch" yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Cyhoeddwyd y bydd seren ifanc canol cae Clwb Pêl-droed Wrecsam, Lili Jones, yn cyflwyno cyngerdd i ddathlu llwyddiant ein timau pêl-droed cenedlaethol wrth godi proffil Cymru a'r Gymraeg yn y byd. Disgwylir y bydd cannoedd yng nghyngerdd "Noson y Wal Goch" i glywed Tara Bandito, Yws Gwynedd, Candelas a Celavi ar nos Iau y 7ed o Awst yn Neuadd William Aston Wrecsam.
Dywed Lili Jones ei hun:
"Mae Wrecsam yn teimlo'n gyffrous fod y Steddfod yn dod i'r dre eleni, a dwi'n teimlo'n gyffrous y bydda i'n cyflwyno gig mawr y Wal Goch ar nos Iau'r Steddfod a hynny drws nesa at y Cae Ras yn Neuadd William Aston. Diolch i'r bandiau sy wedi cyfansoddi caneuon Cymraeg am bêl-droed"
Ar ran Pwyllgor Trefnu Gigs y Gymdeithas, dywed Nia Lloyd:
"Rydyn ni mor falch fod Lili wedi cytuno i arwain y noson. Mae hi'n llais ifanc cryf dros y Gymraeg".
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Lili fideo i hyrwyddo addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, lle mae'n astudio ar hyn o bryd - https://www.youtube.com/watch?v=1ttiFZnfC50
Cynhelir symposiwm Pêl-droed a'r Gymraeg ar 21/03/2025 yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd. Bydd Ian Gwyn Hughes (Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bel-droed Cymru) ymhlith y siaradwyr. Manylion pellach - https://www.wales.ac.uk/sgor-minoritised-languages-and-football
Mae tocynnau Noson y Wal Goch ar werth yma - www.bit.ly/walgoch