Llusgwyd wyth aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan o siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw, am iddynt dorri ar draws y gweithgareddau yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Yr wyth oedd Angharad Clwyd (Pontweli), Hywel Griffiths (Caerfyrddin), Siriol Teifi (llanfihangel ar Arth), Lois Barrar (Nelson), Catrin Evans (Caerdydd), Luke Pearce (Y Barri) a Gwion a Lowri Larsen (Caernarfon).
Mae Cymdeithas yr Iath yn galw am ddeddf newydd fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain, deddf a fydd yn sicrhau statws a hawliau i'r Gymraeg.Dywedodd Catrin Dafydd, Cadeirydd Grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr iaith Gymraeg:"Rydym yn cynnal y brotest ddi-drais yma am ein bod yn teimlo'n gryf mai datganoli pwerau deddfu dros yr iaith Gymreag i'r Cynulliad yw'r datblygiad cyntaf ddylai ddigwydd yn sgil y drafodaeth am ehangu pwerau'r Cynulliad a chyhoeddiad y Papur Gwyn; 'Trefn Lywodraethu Well i Gymru'"."Yn ddiweddar, gwelsom sawl enghraifft gyhoeddus o ddiffyg statws y Gymraeg yng Nghymru; gwrthodiad cwmnni Marks and Spencer i ddarparu arwyddion dwyieithog ar ei siop newydd ym Mangor a methiant y Llywodraeth ei hun i ddarparu ceisiadau am ffurflenni caisyn Gymraeg am drwyddedau i werthu alcohol. Credwn fod Deddf Iaith 1993 wedi hen chwythu ei phlwc a gyda chyhoeddi bwriad Llywodraeth y Cynulliad i lyncu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i fewn i drefn weithredu y Cynulliad ei hun, rydym yn gweld y cyfle am basio deddf iaith newydd."Mae'r brotest hon yn rhan o gyfres o brotestiadau a gweithredoedd di-drais mae'r Gymdeithas wedi eu trefnu ar gyfer yr haf lle bydd y Gymdeithas yn targedu cyrff a chwmniau nad sydd yn rhoi cyfle teg i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gymdeithas Bapur Trafod yn amlinellu gofynion y Gymdeithas am gynnwys Ddeddf Iaith Newydd a Chynhwysfawr i'r Gymraeg. Mae'r Gymdeithas yn galw'n benodol am ddeddfwriaeth fydd yn;* cydnabod mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru,* yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig fel gall y Gymraeg gael ei chydnabod fel iaith gwaith yn yr Undeb Ewropeaidd fel mae'r Wyddeleg,* sefydlu hawliau pendant i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, er enghraifft yr hawl i addysg Gymraeg, yr hawl i weithio trwy'r Gymraeg,* yn gosod dyletswydd ar gyrff preifat a rhai cyhoeddus a gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau cyflawn yn y Gymraeg.* Yn sefydlu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn dilyn patrwm swyddogaethau Comisiynydd Plant CymruYn ystod y brotest hon yn y Cynulliad bydd aelodau'r Gymedithas yn atgoffa Rhodri Morgan o'i eiriau nol yn 1993 pan wrthwynebodd ef ac Aelodau Seneddol eraill o'r Blaid Lafur Cymreig yn San Steffan Deddf Iaith 1993. Geiriau Rhodri Morgan yn 1993 oedd ;this act does no more than establish a quango for the lingo...when we are in Government we will revisit this matter and do the job properly ourselves.”Cred y Gymdeithas fod angen deddf iaith newydd os yw Llywodareth y Cynulliad wir o ddifri am wireddu amcanion eu strategaeth am Gymru dwyieithog fel a geir yn y ddogfen Iaith Pawb.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd ac, ar Hydref 1af 2005 bydd y Gymdeithas yn cynnal Rali Deddf Iaith 'Dyma'r Cyfle!' yng Ngaherdydd gyda'r Aelod Seneddol Hywel Williams, Yr Athro Hywel Teifi Edwards a'r Prifardd Mererid Hopwood y tu allan i Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily Post