Llythyr Agored at Carwyn Jones - Addysg Gymraeg i Bawb

Annwyl Mr Jones, 

Galwn ar y Llywodraeth i dderbyn yr egwyddor fod y gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono. Galwn am ymrwymiad i roi heibio'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith" gan ei bod yn perthyn i bob disgybl, a dylid cyflwyno system newydd o ddysgu'r Gymraeg i bawb fel y daw pob disgybl yn rhugl yn yr iaith ac yn derbyn peth o'i addysg yn Gymraeg. Galwn ar y llywodraeth, wedi derbyn yr egwyddor, i gynnal trafodaethau brys gyda'r byd addysg er mwyn llunio rhaglen i weithredu hyn, gan ddechrau gyda'r Blynyddoedd Cynnar.

Ann Jones AC, Archdderwydd Cymru Christine James, Llyr Huws Gruffydd AC, Jonathan Edwards AS, Susan Elan Jones AS, Adam Price, Cyng Arwel Roberts, Cyng Arfon Jones, Cyng Cefin Campbell,  Ioan Talfryn, Gayle Lister, Cyng. Sian Thomas, Toni Schiavone, Athro Gareth Roberts, Nia Royles, Richard Snelson, Meirion Prys Jones, Aled Davies, Heini Gruffudd, Dr Menna Machreth, Dr Simon Brooks, Mererid Hopwood, Gai Toms, Catrin Dafydd, Mike Jones, Robin McBryde, Felicity Roberts, Huw Gwyn, Jamie Bevan, Gruff Roberts Diserth, Colin Nosworthy, Ffred Ffransis (Llefarydd Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)