Llythyr Cyhoeddus at y Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant

Llythyr Agored at y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant - Bil Cynllunio

Annwyl Carl Sargeant

Cyfeiriwn at eich cyfarfod diweddar gyda swyddogion o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i drafod drafft eich Bil Cynllunio newydd, ac at eich sylwad nad oes unrhyw gynghorydd sir wedi cysylltu â chi i fynegi pryder nad oes modd gwrthwynebu cais cynllunio ar sail effaith ar yr iaith Gymraeg.

Efallai nad ydych wedi derbyn gohebiaeth gan gynghorwyr unigol, ond mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol i hyn fod yn destun trafod mewn sawl cyngor a phwyllgor cynllunio, ac mewn adroddiadau niferus yn y wasg a’r cyfryngau.

Daw sawl cais cynllunio gerbron Pwyllgorau Cynllunio Lleol ledled Cymru lle byddai caniatáu’r cais yn debyg o wanhau neu beryglu dyfodol y Gymraeg ar lefel gymunedol. Rydym fel aelodau etholedig yn cael cyfarwyddid gan swyddogion cynllunio nad oes modd i ni wrthod ceisiadau ar sail y niwed bosib i sefyllfa'r Gymraeg. Mae hyn yn destun gofid i ni.

Gan fod Cyfrifiad 2011 yn dangos cwymp sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn gymharol gryf, rydym yn teimlo dyletswydd i gysylltu â chi i fynegi ein pryder fod y drefn gynllunio bresennol yn milwrio yn erbyn yr iaith.

Rydym fel cynghorwyr yn teimlo rhwystredigaeth nad yw’r Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio berthnasol statudol mewn ceisiadau cynllunio. Teimlwn y dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ddilys mewn pob cais cynllunio ac yn sail gyfreithiol dros wrthod cais, lle bo hynny’n briodol.  Dylai hefyd fod yn rheswm dros ganiatáu cais cynllunio os yw’r datblygiad yn debyg o gryfhau’r iaith ar lefel gymunedol.  

Rydym felly yn gofyn i chi osod ar wyneb y Bil Cynllunio newydd gymal sy’n gwneud yr effaith ar y Gymraeg yn Ystyriaeth Gynllunio Berthnasol, er mwyn rhoi’r hawl statudol i Bwyllgorau Cynllunio Lleol fedru gwrthod, neu ganiatáu, ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar yr iaith.

Nid oes amheuaeth bod y Gymraeg yn wynebu cyfnod ansicr, a theimlwn yn gryf bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei allu i roi cyfle i’r iaith ffynnu. Byddai gweithredu’r hyn awgrymwn ym maes cynllunio yn un ffordd o wneud hynny. Edrychwn ymlaen at eich ymateb.

Yr eiddoch yn gywir,

Cyng. Sion Jones, Cyng. Alun Lenny, Cyng. Ann Griffiths, Cyng. Dilwyn Morgan, Cyng. Sian Gwenllian, Cyng. Ann Williams,  Cyng. Elfed Williams, Cyng. Maldwyn Lewis, Cyng.Elin Walker Jones, Cyng. Mark Strong, Cyng. Awen Jane Davies, Cyng. Eurig Wyn, Cyng. Gruffydd Williams, Cyng. Dai Mason, Cyng Sian Thomas, Cyng. Mair Rowlands, Cyng. Darren Price, Cyng. Peter Hughes-Griffiths, Cyng. Rebeca Lewis, Cyng. Glynog Davies, Cyng. John Wyn Williams, Cyng. Gwyneth Thomas, Cyng. Alun Llewelyn, Cyng. Lynford Thomas