Galw ar y Comisiynydd i flaenoriaethu pobl a bod yn fwy cadarn gyda chyrff sy'n torri'r Safonau

Mewn llythyr at Gomisiynydd newydd y Gymraeg Efa Gruffudd wrth iddi ddechrau ar ei gwaith, rydyn ni wedi galw arni i ddatgan a fydd sicrhau hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn flaenoriaeth iddi. 

Dywed y llythyr bod perygl bod y cyhoedd yn colli ffydd yn y broses gwyno am fod y broses ymchwilio cwynion yn aml yn un hir a chymhleth ac  am nad yw materion yn cael eu datrys mewn modd amserol a boddhaol. 

Dywedodd Siân Howys, llefarydd ar ran Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith "Yn y gorffennol, credwn  y dylai'r Comisiynydd fod wedi arfer y grymoedd sydd ar gael i orfodi cyrff i gydymffurfio  â Safonau ac mae hynny wedi golygu bod pobl yn parhau i gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg."

Ychwanegodd:
"Mewn maes arall, heblaw y Gymraeg, petai rheoliadau'n cael eu torri byddai canlyniadau a goblygiadau. Ond mae Safonau'r Gymraeg yn cael eu trin fel rhywbeth i anelu atynt, yn hytrach na lleiafswm.
"Nid yn unig bod hyn yn broblem pan na fydd Safonau yn cael eu gweithredu ond mae'n golygu bod nifer o sefydliadau yn cynnig darpariaeth lai nag sy'n bosibl mewn gwirionedd, ac yn gadael bwlch rhwng disgwyliadau siaradwyr Cymraeg a'r hyn sy'n cael ei sicrhau gan y Safonau.
"Mae cyfle, gyda'r Comisiynydd  newydd, i fod yn glir o'r dechrau mai pobl fydd y flaenoriaeth - drwy osod mwy o Safonau ar fwy o gyrff, a bod yn fwy cadarn pan fydd cyrff yn torri'r Safonau hynny."

Mae'r Gymdeithas yn galw hefyd am roi Safonau Iaith mewn meysydd sydd wedi eu haddo cyn gynted â phosibl ac ehangu Mesur y Gymraeg i gynnwys cwmnïau'r sector breifat.

Y llythyr yn llawn:

Annwyl Efa,

Hoffem eich llongyfarch yn gynnes ar eich penodiad  a dymuno'n dda i chi wrth i chi ddechrau ar eich gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg. Hyderwn y bydd sicrhau bod mwy o bobl yn gallu gwneud defnydd hwylus ac eang o'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd yn flaenoriaeth ichwi.

Mae yn destun pryder  inni fel Cymdeithas  nad oes gan bobl hyder digonol  ym mhroses trin cwynion y Comisiynydd fel ag y mae am ei bod yn broses hir a llafurus i unigolion sydd wedi'u hamddifadu o'u hawliau, a'i bod yn aml yn methu â chyflawni datrysiad boddhaol. 

Mae gennym esiamplau lle dydy'r Comisiynydd ddim wedi arfer y grymoedd sydd ar gael i orfodi cydymffurfio â Safonau, ac mae hynny wedi golygu bod pobl yn parhau i gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg.

Wedi i unigolyn wneud cwyn, mae'r broses yn hir a beichus, gyda disgwyliadau a chyfrifoldebau ar yr unigolyn o'r dechrau. Credwn bod lle i'r Comisiynydd leihau'r baich sydd ar unigolion a rhoi cymorth priodoli i bobl wneud cwyn fel nad yw defnyddwyr y Gymraeg dan anfantais bellach o fod wedi gwneud cwyn.

O ran y Safonau eu hunain,  mae tueddiad gan rai cyrff i'w hystyried fel nod i anelu at eu cyrraedd yn hytrach nag fel lleiafswm. Mae hyn yn golygu bod nifer o gyrff yn hunanfodlon ac yn cynnig darpariaeth lai nag a fyddai'n bosibl mewn gwirionedd, gan adael bwlch rhwng disgwyliadau siaradwyr Cymraeg a'r hyn sy'n cael ei sicrhau gan y Safonau.

Ymhellach, mae'r Llywodraeth ar y cyd â Phlaid Cymru wedi ymrwymo yn y Cytundeb Cydweithio i osod Safonau Cymraeg ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai. Rydyn ni'n awyddus i hyn ddigwydd ar frys er mwyn sicrhau bod gwasanaethau sylfaenol ar gael drwy'r Gymraeg cyn gynted â phosibl, ond mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn llusgo'u traed ar y mater. 

Rydyn ni hefyd am weld gosod Safonau ar yr holl gyrff eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Mesur presennol ac  i gynnwys cyrff y sector breifat, fel bod modd dechrau gosod Safonau arnyn nhw.

Mae gosod Safonau'r Gymraeg ar y cyfleustodau yn agor y drws ac yn normaleiddio'r syniad o ddisgwyliad bod gwasanaeth Cymraeg gan gyrff y sector breifat o dan Fesur y Gymraeg.

Gyda hyn oll mewn golwg, dyma grynhoi ein galwadau wrth ichi ddechrau ar eich gwaith:

  • Bod yn fwy cadarn gyda chyrff wrth orfodi Safonau'r Gymraeg
    Pan fydd cyrff yn methu cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, dylai'r Comisiynydd ddefnyddio'i phwerau i orfodi cyrff i gydymffurfio heb oedi pellach er budd pobl Cymru.

  • Sicrhau bod ein hawliau'n cael eu hyrwyddo mewn ffordd fwy manwl a chlir
    Dylai'r Comisiynydd ofyn i'r cyrff esbonio'n llawer mwy clir a rhagweithiol pa hawliau sydd gan y cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg

  • Hwyluso a symleiddio'r broses gwyno
    Dylai'r Comisiynydd roi cefnogaeth a sicrhau eiriolaeth ffurfiol, pan fo angen, i bobl sy'n dymuno gwneud cwyn am fethiannau a lleihau'r baich ar unigolion sydd wedi'u hamddifadu o'u hawliau.

  • Cydweithio gyda'r Llywodraeth i brysuro'r broses o osod Safonau'r Gymraeg ar gyrff newydd
    Mae Safonau ym maes trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dŵr a chymdeithasau tai wedi'u haddo, ond mae meysydd eraill y gellir gosod Safonau arnyn nhw o dan Fesur y Gymraeg hefyd ac mae angen amserlen glir ar gyfer eu cyflwyno.

  • Esbonio mai isafswm yw Safonau'r Gymraeg
    Dylai'r Comisiynydd gyfathrebu'n glir mai isafswm yw Safonau'r Gymraeg ac annog sefydliadau i adeiladu arnynt yn hytrach na'u hystyried fel nod i'w cyrraedd.

  • Cydweithio â'r Llywodraeth i ehangu Mesur y Gymraeg i gynnwys cyrff y sector breifat
    Bydd cwmnïau preifat yn dal i ddiystyru'r Gymraeg nes bod rheidrwydd arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, felly mae angen cynnwys cyrff y sector breifat o dan Fesur y Gymraeg.

Gyda hyn mewn golwg, hoffem ofyn yn garedig am gyfarfod gyda chi mor fuan a phosib  er mwyn cynnal deialog cadarnhaol a phwrpasol ar ein galwadau. 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb.

Yn gywir iawn,
Grŵp Hawl i'r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith