Mae modd sicrhau dyfodol i Ysgol Gymraeg Garnswllt.

garnswllt.jpg Ar y diwrnod y cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a allent benderfynu dyfodol Ysgol Gymraeg Garnswllt, y mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Abertawe i roi ystyriaeth i gynllun cadarnhaol a allai gadw a datblygu’r ysgol.

Nos fory (Llun 19/6) bydd cynghorwyr a swyddogion yn cynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda staff, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol i drafod eu cynllun i gau’r ysgol.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda Chyfarwyddwr Addysg Abertawe a’r Aelod Cabinet sydd â’r gyfrifoldeb dros addysg, y Cyng Mike Day, i ofyn iddynt baratoi adroddiad brys ar greu ffederasiwn rhwng ysgolion Garnswllt, Felindre a Bryn Iago (Pontarddulais). Dywedodd Aled Davies, ar ran y Gymdeithas,"Dyma gynllun a ystriwyd yn y gorffennol ac, os deuir i’r casgliad na ellir cynnal Ysgol Garnswllt fel y mae, byddai ffederasiwn o’r fath yn creu uned addysgol gref iawn yn cyfuno cryfder adnoddau Ysgol Bryn Iago lle mae rhestr aros am leoedd gyda dwy safle gymunedol Gymraeg.""O safbwynt yr Awdurdod byddai rhesymoli cadarnhaol ac o safbwynt Garnswllt, byddai dal uned addysgol yn y pentref ac ymdeimlad o berchnogaeth ar y sefydliad newydd yn lle’r ymddieithrio a ddaw yn sgil cau ysgolion. Gofynnwn i’r Cyngor Sir baratoi astudiaeth fanwl o’r cynllun hwn cyn dod i benderfyniad ar ddyfodol yr ysgol. Mae’r plant a’r gymuned yn haeddu ystyriaeth o’r fath."Mae Cynghorwyr Rhyddfrydol, Ceidwadol ac Annibynnol yn rheoli’r cyngor, ac y mae’r Gymdeithas hefyd wedi tynnu sylw arweinwyr y pleidiau hyn yn y Cynulliad at yr hyn sy’n digwydd yn lleol gan eu bod yn ymhonni bod yn erbyn cau ysgolion pentrefol ar lefel cenedlaethol.Stori oddi ar wefan y South Wales Evening Post