Heddiw, ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi pamffled newydd a fydd yn rhybyddio y gallwn golli pob un cymuned Gymraeg erbyn y flwyddyn 2020.
Yn sgil y peryg hyn, mae’r pamffled – Cymru 2020 – Colli Tir, Colli Iaith – yn galw am ymgyrchu gwleidyddol brys – gan ddechrau yr wythnos hon ar faes yr eisteddfod – er mwyn adfywio’n cymunedau Cymraeg. Bydd y pamffled yn cael ei lansio am 11am tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod (Unedau 736 – 738).Wrth lansio’r pamffled, dywedodd Steffan Cravos, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Yn ystod wythnos yr Eisteddod, mae gennym y rhyddid i fyw ein bywydau yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, mae peryg gwirioneddol, erbyn y flwyddyn 2020, maimaes yr Eisteddfod fydd yr unig fan lle mae hyn yn bosib. Heb gyfnod o ymgyrchu brys gan bobl Cymru, mae’n bosib mae yr Eisteddfod fydd yr unig gymuned Gymraeg fydd ar ôl ymhen pymtheg mlynedd..”“Nid yw’r hwn yn anochel. Ond, bydd sicrhau newidiadau er gwell yn galw am ymgyrchu penderfynol gan bobl Cymru”Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bob Eisteddfodwr i roi cychwyn ar yr ymgyrchu yr wythnos hon, trwy:* arwyddo’r ddeiseb genedlaethol dros Ddeddf Eiddo i Gymru. Dyma fesur a fydd yn sicrhau tai i bobl leol ac felly’n gwarchod seiliau ein cymunedau.* mynychu’r brotest dros Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir ar y maes dydd Mawrth. Byddai Deddf Iaith yn rhoi’r hawl i ni ddefnyddio’r Gymraeg ymmhob rhan o’n bywyd.Ychwanegodd Steffan Cravos:“Ein galwad ar Lywodraeth y Cynulliad yw iddynt gyflwyno’r mesurau hyn, naill ai trwy law San steffan neu yng Nghaerdydd ei hun.”“Ein galwad ar yr Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill – sydd yn gwasanaethu ein cymunedau Cymraeg yw iddynt symud tuag at weinyddu a gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hwn yn gam angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn parhau i gael ei gweld fel iaith i gyfieithu iddi, ond yn hytrach, fel argyfwng sy’n hanfodol i fywyd cyhoeddus ein cymunedau Cymraeg.”Dychmygwch Gymru heb gymunedau CymraegGan gychwyn dydd Llun, bydd Cymdeithas yr Iaith yn ceisio tynnu sylw at yr argyfwng uchod, trwy wahodd Eisteddfodwyr i ddychmygu sut le fyddai Cymru heb y Gymraeg. Y gobaith yw y bydd hyn yn cymell pobli i ymgyrchu. Er mwyn hybu hyn ac i bwysleisio pwysigrwydd yr hyn y gallem ei golli bydd nifer o aelodau’r gymdeithas yn treulio’r wythnos yn mynd heb bethau sy’n bwysig iddyn hwy. Fel rhan o hyn, bydd rhai aelodau yn treulio’r wythnos ar ympryd – naill ai am bum niwrnod neu am ddyddiau unigol.Dewch i stondin Cymdeithas yr Iaith (Unedau 736 – 738) erbyn 11 o’r gloch bore dydd Llun er mwyn cwrdd â rhai o’r bobl fydd yn treulio’r wythnos heb bethau pwysig.Stori oddi ar wefan y Western Mail