Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu a chau prif fynedfa swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd heddiw, gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg, yn creu ‘argyfwng wleidyddol’.
Mae'r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar frys dros y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.
Meddai Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn wedi cael llond bol ar ddisgwyl ymateb cadarn a chlir gan Carwyn Jones i’r Cyfrifiad. Mae ei ddiffyg gweithredu’n arwain at argyfwng wleidyddol. Dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg. Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall bethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd. Ni fydd gwefan ac ap newydd yn ymateb digonol i’r argyfwng - mae angen cymryd camau uchelgeisiol mewn meysydd addysg, cynllunio ac ariannu. Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu.”
“Mae Carwyn Jones ei hun wedi cydnabod ei ofidion am gyflwr yr iaith. Ond, yn hytrach na dangos arweiniad cadarnhaol, a mynd i’r afael â’r her sy’n wynebu’r Gymraeg, mae’r Llywodraeth Lafur yn parhau i lusgo eu traed. Er gwaethaf blwyddyn gron o lythyru, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda’r Llywodraeth, mae’n ymddangos i ni erbyn hyn, mai anufudd-dod dinesig a gweithredu cadarnhaol yw’r unig fodd o sicrhau bod Carwyn Jones a’r Llywodraeth yn gweithredu.”
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad – ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.