Cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith yn fan cychwyn ond yn rhwystro’r ffordd at hawliau.Ar ddiwrnod hanesyddol cyhoeddi’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar yr iaith Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn herio Llywodraeth y Cynulliad i fynnu mwy o bwerau er mwyn llunio mesur iaith cyflawn – a hynny heb ymyrraeth oddi wrth y Senedd yn Llundain.Mae’r Gorchymyn yn cynnwys pwerau i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol a sgôp i sefydlu Comisiynydd Iaith Gymraeg – dau bwynt allan o dri bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdanynt."Ond hawliau amodol yw’r hyn sy’n cael eu cynnig yn y Gorchymyn. Ni fyddant yn cyffwrdd â rhan helaeth y Sector Breifat" yn ôl Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Ychwanegodd:"Er bod yna nifer o bethau i’w croesawu yn y gorchymyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis rhwystro mynediad pobl Cymru at y Gymraeg oherwydd nad oes hawliau cynhwysfawr yn yr LCO. Mae’r LCO wedi gosod arwydd ‘Dim Mynediad’ mewn nifer o fannau yn y sector breifat. Y sector mae pobl yn dod i gysylltiad â hi fwya’ yn eu bywydau bob dydd. Ein neges i Lywodraeth Cymru’n Un yw ‘mynnwch rywbeth gwell i bobl Cymru! Ar yr un gwynt, rydym yn rhybuddio Aelodau Seneddol San Steffan rhag unrhyw ymdrech sinigaidd i wanhau'r Gorchymyn yn ogystal."Ychwanegodd:"Mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at drafodaeth eang ar y mesur ac yn herio’r Llywodraeth i ddangos sut bydd y mesur yn gwneud gwahaniaeth i’r sawl sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg."Fe fydd Cymdeithas yr iaith yn cyhoeddi cyfnod newydd yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith Cyflawn dros y misoedd nesaf gyda chyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru fydd yn gosod her glir i Lywodraeth y Cynulliad bod rhaid sicrhau Mesur Iaith cryf, eglur a chyflawn.
Ydych chi'n sylweddoli nad yw'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac nad oes gennych chi unrhyw hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich bywyd bob dydd? Mynnwch bod y pwerau deddfu llawn ym maes y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru! Gweithred Fechan x Pawb = Gwahaniaeth mawr i'r Gymraeg! Pwyswch yma i ddanfon ebost at eich Aelodau Cynulliad ac Aelod Seneddol.