Bu tri o Gymry blaenllaw yn cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw i bwyso arno o'r newydd i barchu statws swyddogol diamod i'r iaith Gymraeg.Daw'r cyfarfod gwta wythnos ar ôl i bedwar ugain a phump o awduron, beirdd, clerigyddion, ysgolheigion, artistiaid a phobl fusnes anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant.Dirprwyaeth o'r llythyrwyr hynny oedd yn bresennol, sef yr Athro Richard Wyn Jones, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a'r ddarlledwraig adnabyddus Beti George.Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones:"Cawsom awr o gyfarfod gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.Fe egluron ni wrtho ein safbwynt, sef y byddai un newid bychan i Fesur yr Iaith Gymraeg yn golygu rhoi statws swyddogol cyflawn a diamod i'r iaith, fel na bo'n rhaid ail ymweld â'r cwestiwn hwn yn y dyfodol .Byddai hynny'n creu sylfaen gadarn ar gyfer yr holl bethau ymarferol eraill sydd angen eu gwneud er mwyn hyrwyddo a diogelu'r iaith Gymraeg yng Nghymru.Mater i Lywodraeth Cymru yw hi nawr. Gobeithio y bydd yn achub ar y cyfle hanesyddol sydd ganddi wrth ddeddfu am y tro cyntaf am yr iaith Gymraeg." Meddai'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor:"Nid oes ystyr i ddwyieithrwydd yng Nghymru heblaw bod y Gymraeg yn cael statws swyddogol."Wrth ymateb i'r cwestiwn pam ei bod yn teimlo bod yn rhaid iddi wneud y safiad hwn dywedodd Beti George:"Yr hyn nad ydw i yn ei ddeall yw ar ôl i'r Pwyllgor Deddfu trawsbleidiol gytuno'n unfrydol i ddatganiad clir bod y Gymraeg yn swyddogol ac yn gyfartal â'r Saesneg, eu bod wedyn wedi mynd yn ôl ar eu gair. O ddarllen yr hyn sydd yn y papure newydd, yr argraff a roddir yw nad oes angen newid dim yn y Mesur arfaethedig er mwyn cryfhau statws y Gymraeg. Ond nid felly y mae."