Mis o garchar am fynnu hawliau iaith

carchar-hawliau-bach.jpgAr ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai misoedd yn ôl fel rhan o ymgyrch genedlaethol i geisio ehangu'r Gorchymyn Deddfu ar yr iaith Gymraeg oedd yn cael ei drafod ar y pryd. Meddai Osian Jones:"Mae'n warthus i feddwl fod y cwmnïau hyn yn dod i Gymru heb ystyried y Gymraeg o gwbl. Mae'n nhw'n ddigon bodlon derbyn ein harian ond mae'n galwadau yn cael eu hanwybyddu. Rydyn ni wedi bod yn gohebu gyda'r cwmnïau hyn, ac eraill, ers cymaint o amser ond dydyn nhw'n gwrando dim. Mae'n bryd codi yn erbyn cwmnïau mawr sy'n sathru ar ein hawliau'' Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:''Mae'r Gorchymyn iaith yn bell o fod yn rhoi mwy o hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg. Does dim sôn o gwbl am y busnesau y bu Osian yn eu targedu yn y Gorchymyn iaith felly mae'r Llywodraeth yn dal i rwystro'n ffordd i'r Gymraeg ar y stryd fawr.''Gofynnwn i bob un ddangos cefnogaeth i Osian drwy fod yn bresennol yn ei achos llys ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd ym Mhwllheli am 9.30. Mwy o wybodaeth am yr Achos Llys yma...