Mudiadau yn galw am newidiadau i’r drefn gynllunio

Mae nifer o fudiadau a Chymry blaenllaw wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i’r drefn gynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, cyhoeddodd y mudiad iaith heddiw.

Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg, a hynny er yr holl bwyslais a roddwyd ar pwysigrwydd y maes yn y Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad y Llywodraeth ar sefyllfa’r Gymraeg. Disgwylir y bydd y ddeddfwriaeth gynllunio ddiwygiedig, wedi cyfnod o ymgynghori, yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad yn yr Hydref eleni.

Ymysg llofnodwyr y datganiad dros newidiadau i’r system gynllunio mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ieuan Wyn o Gylch yr Iaith, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol,  Cyn-gadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg Dr Huw Thomas, Prif Weithredwr y mudiad iaith Cymuned, y cyfreithiwr Siôn Tudur a’r Bargyfreithiwr Rhys Thomas. Mae’r mudiadau ac unigolion hyn wedi cytuno i gefnogi deddfwriaeth gynllunio sy’n:

  • Datgan mai pwrpas y system gynllunio yw rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg

  • Asesu anghenion lleol fel man cychwyn a o pendant i gynlluniau datblygu, yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol

  • Sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu

  • Rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr ystyried y Gymraeg wrth dderbyn neu wrthod cynlluniau, drwy wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol

  • Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, y mae cymunedau yn gallu apelio iddo

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Rwy’n falch ein bod wedi derbyn cymaint o gefnogaeth i’n galwadau, ac yn dangos bod consensws yn cael ei ffurfio ynghylch pwysigrwydd y newidiadau hyn i’r gyfundrefn gynllunio. Mae’r datganiad, sy’n seiliedig ar ein cynigion deddfwriaethol amgen ni fel mudiad, yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd.  Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg a gallu pobl i fyw yn Gymraeg.  Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd ddod.”

Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg, megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan. Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni wedi galw am chwyldroi’r system gynllunio fel rhan o’r chwe newid polisi sydd ei angen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad. Yn gynharach eleni, wnaethon ni gyhoeddi Bil Cynllunio amgen, ac mae’r datganiad rydyn ni wedi cyhoeddi heddiw yn crynhoi’r prif alwadau yn y Bil hwnnw. Rydym yn cynnig gweledigaeth o’r math o system a fyddai’n gweithio o blaid ein cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Byddwn ni’n casglu enwau ar y datganiad dros y misoedd nesaf a’u cyflwyno i’r Llywodaeth. ”

Mae Cymdeithas yr Iaith wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus am ei chynigion cynllunio. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn y Bala am 7pm, nos Iau, Mai 29ain yn Neuadd Bro Tegid, y Bala, gyda’r siaradwyr gwadd Liz Saville Roberts a Shan Ashton.