Mynnu Gweithredu erbyn yr Eisteddfod

Wedi i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin gymeradwyo adroddiad Gweithgor sydd wedi llunio argymhellion i fynd i'r afael â sefyllfa'r Gymraeg yn y sir, mae Cymdeithas yr iaith wedi pwysleisio mai symud i weithredu sydd ei angen nawr.

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth:

“Rydyn ni'n falch bod yr argymhellion hyn wedi eu derbyn ac yn disgwyl nawr y bydd amserlen a chynllun gweithredu yn barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol – bydd llygaid Cymru gyfan ar Sir Gaerfyrddin bryd hynny ac rydyn ni'n bwriadu trefnu parti mawr ar y maes i ddathlu gweledigaeth a blaengaredd Sir Gaerfyrddin, fel esiampl i weddill Cymru. Mae Kevin Madge ei hun wedi dweud heddiw fod hwn yn fater brys, felly rydyn ni'n cymeryd y Bwrdd Gweithredol ar ei air am hynny.

Erbyn hynny rydyn ni hefyd yn gobeithio bydd y Gweithgor wedi cael amser i fynd i'r afael â'r tri gwendid rydyn ni wedi eu hadnabod yn yr adroddiad. Bydd eu gweithredu nhw yn sicrhau fod gwneud y mwyaf o waith da y Gweithgor, a bod dilyniant cynaliadwy.

Gwrandewch ar adroddiad Aled Scourfield "Sut i gryfhau'r Gymraeg yn Sir Gâr?" oddi ar Post Prynhawn, BBC Radio Cymru a ddarlledwyd ar 31/03/14 isod:

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y gweithgor i roi sylw pellach i:

(a) IAITH Y CYNGOR EI HUN - Mae argymhelliad (43) i'r Cyngor gyflawni'i waith ei hun yn Gymraeg yn bwysig o ran gosod esiampl, ond ni ddaw byth o aros am "wella sgiliau iaith y gweithlu". Dylai'r gweithgor ystyried model o osod targedau teg am newid iaith weinyddol gwahanol adrannau, ac yna gynyddu sgiliau'r gweithlu er mwyn gweithredu hyn.

(b) YSGOLION I ADFER YR IAITH MEWN CYMUNEDAU EHANGACH – Mae argymhellion gwych ym maes addysg, ond gallent arwain at greu "Byd Addysg Gymraeg" yn lle "Sir Gar Gymraeg". Dylai'r gweithgor ddatblygu strategaeth ddilynol i ddefnyddio adnoddau ysgolion i Gymreigio cymunedau o'u cwmpas, yn hytrach na bod cau ysgolion.

c) EFFAITH DATBLYGIADAU TAI NEWYDD AR GYMUNEDAU - Mae'r gweithgor yn cydnabod mai bach iawn oedd yr ymchwil a wnaed, a dylid gofyn am ymchwil pellach e.e. dywed 68% o'r ychydig berchnogion tai stad newydd a atebodd eu bod yn dod o Sir Gar, ond nid oes sôn am yr hyn ddigwyddodd i'w tai nhw. Bydd ymchwil pellach yn dangos fod y datblygiadau yn llawer mwy niweidiol i gymunedau lleol.

Mwy o Wybodaeth: